3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:49, 28 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Yn unol â'u cyfrifoldebau nhw o ran rhianta corfforaethol, bydd awdurdodau lleol Cymru â rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Fe fyddan nhw'n gweithredu fel pwynt cyswllt dechreuol ar gyfer derbynyddion sy'n cael yr incwm sylfaenol ac fe fyddan nhw'n gyfrifol am arwain y bobl ifanc sydd yn eu gofal nhw drwy'r cynllun treialu. Fe fyddan nhw'n uwchgyfeirio materion ac yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at unrhyw heriau o ran gweithrediad y cynllun, ac yn darparu cyswllt â derbynyddion ar gyfer ymchwilwyr ac arweinwyr polisi cenedlaethol at ddibenion gwerthuso a monitro. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfeiriad i'r polisi cenedlaethol ar gyfer pob agwedd ar y cynllun treialu ac yn rhoi canllawiau i gefnogi darpariaeth deg ledled Cymru. Ni fydd y pwynt cyswllt canolog ar gyfer pawb sy'n ymwneud â rheolaeth, cyflwyniad a gwerthuso'r cynllun treialu, ac fe fyddwn ni'n ymateb i adborth yn unol â hynny, gyda diweddariadau i'r polisi, y ddarpariaeth a'r canllawiau yn ôl yr angen.

Darparwr allanol a fydd yn gwneud taliadau i'r cyfranogwyr ac fe gaiff hwnnw ei gaffael gan ddefnyddio fframwaith sy'n bodoli eisoes ar gyfer caffael. Mae defnyddio darparwr taliad sengl yn sicrhau system gyson ac effeithlon sy'n darparu'r un gwasanaeth i bawb sy'n cael yr incwm sylfaenol. Bydd hwnnw hefyd yn golygu un pwynt cyswllt ar gyfer pob cyfranogwr o ran talu incwm sylfaenol. Mae'r cynllun treialu nid yn unig yn ymwneud â chyflenwi arian i dderbynyddion; mae hi'n hanfodol, cyn dewis cymryd rhan, bod y rhai sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau deallus am eu cyllid a'u dyfodol nhw. Fe wyddom ni fod awdurdodau lleol yn darparu ystod o gymorth i bobl ifanc â phrofiad o ofal eisoes fel rhan o'u rhwymedigaethau statudol yn rhiant corfforaethol. Roedd y rhai sy'n gadael gofal yr ydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw'n mynegi yn eglur y dylai'r holl bobl ifanc sy'n gymwys i fod â rhan yn y cynllun treialu gael cynnig o gyngor a chymorth ariannol sy'n gyson, annibynnol a chadarn o ran ansawdd drwy gydol eu hymgysylltiad nhw â'r cynllun. Felly, rydym ni wedi datblygu pecyn o gyngor a chymorth ariannol i'r rhai sy'n gadael gofal sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn a fydd yn ehangu ar gytundeb grant cronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yng ngofal Cyngor ar Bopeth Cymru. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc ac yn rhoi cymorth cyngor ail haen hefyd i weithwyr proffesiynol yr awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fe fydd hynny'n cynnwys cyngor ar bob cam, o weithio drwy gyfrifiad o ba mor fuddiol fyddai hyn cyn y cynllun treialu hyd at gyngor o ran cyllidebu neu gymorth gydag argyfwng ariannol. Fe fydd y rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael ar gyngor diduedd wedi'i deilwra i'w hamgylchiadau unigol nhw, a bydd un sefydliad arweiniol yn sicrhau cysondeb wrth ddarparu gwasanaethau ledled Cymru. Yn ogystal â'r cyngor ariannol unigol a roddir i dderbynyddion yr incwm sylfaenol, rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill, megis Voices from Care Cymru a Gwasanaeth Arian a Phensiynau Llywodraeth y DU, i roi cyngor mwy cyfannol ynghylch rheoli arian, addysg, hyfforddiant a llesiant. Bydd derbynyddion yn cael eu cyfeirio at y cyfleoedd hyn drwy eu cynghorwyr pobl ifanc a gwasanaethau cymorth eraill.

Bydd cael clywed llais a chael cipolwg ar brofiad y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn y cynllun treialu hwn yn hanfodol i'w lwyddiant. Fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw drwy'r cyfan i gyd i gyfrannu at ein gwerthusiad deinamig ni a sicrhau bod profiadau'r rhai sy'n byw drwyddo yn ganolog i'w ganlyniadau. Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y cynllun treialu o ran gwelliannau ym mhrofiadau gofal unigol a sut mae bod yn rhan o'r cynllun wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc. Bydd adborth rheolaidd gan dderbynyddion yn sicrhau gwerthusiad sy'n darparu themâu sy'n dod i'r amlwg ar brofiadau cyfranogwyr ac yn cefnogi gwelliant i'r cynllun treialu wrth iddo gael ei gyflwyno.

Drwy'r cynllun treialu hwn, rydym ni'n awyddus i adeiladu ar y cymorth a gynigir i blant â phrofiad o ofal yng Nghymru ar hyn o bryd a sicrhau bod pobl ifanc sydd â rhan yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i roi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw ar daith bywyd a gwneud y broses o drosglwyddo o ofal yn well, yn haws ac yn fwy adeiladol. Y canolbwynt fydd sicrhau annibyniaeth oddi ar wasanaethau yn hytrach na dibyniaeth ar wasanaethau wrth iddyn nhw ddod yn oedolion. Rydym ni am weithio gyda rhanddeiliaid, derbynyddion a'n tîm gwerthuso ni i fonitro cynnydd y cynllun a gwneud newidiadau lle bod angen, ac fe fyddaf innau'n falch o barhau i rannu ein profiadau a'n canlyniadau ni wrth i'r gwaith pwysig hwn ddatblygu. Diolch.