Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r proffesiwn am eu hymrwymiad parhaus i ddiwygio’r cwricwlwm a blaenoriaethu lles eu dysgwyr, er gwaethaf yr heriau niferus maen nhw wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Cymru ar daith uchelgeisiol i ddiwygio addysg, i godi safonau a dyheadau i bawb, fel y gall pawb gyrraedd eu potensial. Wrth wraidd ein diwygiadau, mae'r Cwricwlwm i Gymru yn galluogi ymarferwyr i gynllunio addysgu sy’n ennyn diddordeb dysgwyr, ac yn eu cefnogi a’u herio i symud ymlaen a chyflawni eu llawn botensial. Mae asesu disgyblion ac atebolrwydd cyhoeddus yn hanfodol i godi safonau a chefnogi ein rhaglen ddiwygio. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonynt rôl wahanol iawn i'w chwarae. Mae asesu yn ymwneud gyda deall anghenion disgybl unigol; dylid ei ddefnyddio er budd disgyblion, i alluogi athrawon i addasu strategaethau addysgu i gefnogi cynnydd disgyblion. Mae atebolrwydd yn cynnwys barn ar berfformiad cyffredinol ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd.
Mae’r dystiolaeth yn glir bod effaith andwyol ar addysgu a dysgu pan fydd asesu ac atebolrwydd heb eu gwahanu. Mae ysgolion yn cwyno eu bod yn aml wedi drysu am yr hyn a ddisgwylir ganddynt a'u bod yn cael eu tynnu i gyfeiriadau gwrthgyferbyniol. Ddoe, cafodd ein canllawiau newydd ar wella ysgolion eu cyhoeddi er mwyn mynd i’r afael gyda hyn. Maen nhw'n darparu fframwaith clir ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Fel y byddech yn gobeithio ac yn disgwyl, rydym wedi rhoi'r dysgwr, ei les a’i gynnydd, wrth wraidd hyn. Mae'r canllawiau'n helpu i egluro'r gwahaniaeth rhwng asesu ac atebolrwydd, yn ogystal â'r gwahanol rolau a chwaraeir ganddynt, fel bod ysgolion yn glir ynghylch yr hyn sy'n ofynnol. Mae hefyd yn nodi sut y bydd rhieni a'r cyhoedd yn ehangach yn gallu cael gafael ar wybodaeth fwy cyfamserol, manwl a llawn gwybodaeth.