5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:11, 28 Mehefin 2022

Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n meddwl bod yna ddau beth mae rhieni yn hoffi clywed o ran plant mewn ysgolion: un ydy eu bod nhw'n datblygu hyd orau eu gallu nhw, a'n cael eu cefnogi i wneud hynny; a'r ail beth ydy eu bod nhw'n hapus yn yr ysgol. A dwi'n croesawu yn fawr yr un pwyslais yn y newid hwn, o ran ein bod ni ddim jest yn edrych ar y cynnydd academaidd, ond hefyd lles a llais dysgwyr, ac mae hynna i'w groesawu yn fawr. A hefyd y pwyslais—os ydych chi'n edrych ar y ddogfen 44 o dudalennau, neu fwy yn y Gymraeg—o ran lles ymarferwyr a dysgwyr, a dwi'n meddwl dyna'r newid sydd yn dod yn sgil hyn, a dyna oedd ar goll, dwi'n credu, yn y system oedd yn cael ei disgrifio fel goleuadau traffig. Ac oedd, mi oedd hi'n syml, ond mi oedd hi'n syml i gamddehongli beth oedd hynny'n ei olygu o ran eich plentyn chi, o ran sut oedden nhw’n cael eu cefnogi a pha mor hapus oedden nhw yn yr ysgol. A dwi'n gwybod, o ran siarad â nifer o athrawon sydd yn dysgu mewn rhai o'r ysgolion oedd wedi'u categoreiddio fel coch neu oren ac ati, nad dyna'r realiti; doedden nhw ddim yn ysgolion oedd yn methu, ond doedden nhw efallai ddim yn cyrraedd y pwynt yna. Wedyn, dwi'n meddwl mai symlrwydd—ydy, mae i'w groesawu, ond mae yna beryg gwirioneddol hefyd, os ydyn ni'n ei wneud o mor blunt â hynny, ein bod ni'n colli wedyn beth mae'n ei olygu o ran yr ysgol, a dyna lle dwi'n anghytuno â Laura Jones o ran hyn.

Dwi hefyd yn croesawu eich bod chi wedi sôn ynglŷn â rôl awdurdodau lleol rŵan yn hyn—bod angen cytuno o ran pa gymorth y bydd angen ei roi i ysgolion o ran cyrraedd y meini prawf. A'r hyn roeddwn i eisiau ei ofyn i chi: ydy hyn yn golygu y bydd ysgolion wedyn yn cael eu grymuso? Fydd yna fwy o oblygiadau, wedyn, ar awdurdodau lleol, er enghraifft, i fod yn cefnogi'r ysgolion hynny ymhellach, er mwyn gallu cyflawni yr hyn mae disgwyliadau—? Dwi'n meddwl yn benodol o ran anghenion dysgu ychwanegol, er enghraifft. Dŷn ni wedi trafod nifer o weithiau o ran, mewn rhai ardaloedd, y diffyg mynediad i anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg, er enghraifft, ac mae hyn yn rhywbeth mae ysgolion cynradd wedi'i godi efo fi, lle nad oes darpariaeth ar y funud. Ydy hyn felly yn mynd i rymuso'r ysgolion hynny, os ydyn nhw felly yn gweld bod hyn yn methu'r plant hynny sydd yn eu gofal nhw, a'u bod nhw felly yn teimlo nad ydyn nhw yn rhoi y cynnydd a'r lles hynny? Ydy hyn yn mynd i rymuso wedyn, ac oes yna oblygiadau yn mynd i fod os ydy awdurdodau lleol ddim yn darparu'r hyn mae ysgolion yn credu sy'n angenrheidiol er mwyn iddyn nhw gyrraedd y meini prawf?

Y cwestiwn arall sydd gen i ydy o ran Estyn. Dwi'n gweld eu bod nhw'n croesawu yn fawr y newidiadau hyn, yn edrych ymlaen at rai o'r newidiadau hyn, ond ydyn nhw yn barod i weithredu'r fframwaith newydd ar lefel genedlaethol o ran yr adnoddau ac ati? Oherwydd, yn amlwg, mae yna sail wahanol os ydych chi'n mynd i fod yn gwneud ymweliadau ad hoc ac ati. Mae o'n eithaf cyson o ran trefnu os ydy ysgol yn cael asesiad bob saith mlynedd, ond os oes angen mwy o gymorth ar ysgolion rŵan, ydy hynna'n golygu bod yna fwy o adnoddau eu hangen ar Estyn, a sut fydd Estyn yn cael eu cefnogi ar hyn?

Dwi'n croesawu'n fawr fod yna ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol o ran hyn. Un o'r pethau dŷn ni'n ei glywed dro ar ôl tro ydy llwyth gwaith athrawon, a dwi'n croesawu, yn eich ymateb i Laura Anne Jones, eich bod chi wedi pwysleisio hefyd fod hon yn mynd i fod yn broses. A dwi'n ymwybodol bod rhai athrawon yn hunanasesu yn barod o ran ysgolion; mae o'n rhywbeth sydd yn gweithio'n dda rhwng llywodraethwyr. Ond o ran edrych ar beth o'r ieithwedd, mae un o'r pethau sydd wedi bod yn codi pryder, y syniad yma o fethu, yn dal i fod. Gwnaethoch chi sôn ynglŷn â 'failures addressed' ac ati. Onid ydyn ni'n trio symud yn ôl o'r syniad o fethu neu lwyddo, a'n bod ni yn trio sicrhau—? Ar wahân iddyn nhw fod mewn mesurau arbennig, onid yw'r prif beth trio cefnogi pob ysgol i gyrraedd gorau eu gallu? A dwi'n mynd nôl at y pwynt sylfaenol, felly: ble bydd yr oblygiadau yn disgyn os nad bai'r ysgol ydy o ei bod hi'n methu cyflawni, fod yr adnoddau ddim ar gael? Dwi'n meddwl bod yna botensial felly o ran deialog lot mwy agored o ran rhai o'r heriau mewn rhai ardaloedd o ran pam felly mae disgyblion yn methu â derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei hangen.

Ond, yn bennaf oll, dwi'n meddwl bod hyn i'w groesawu, ond mae'n rhaid inni sicrhau dyw hyn ddim wedyn yn rhoi straen ychwanegol ar athrawon, ond yn cael ei weld fel rydych chi wedi ei gyflwyno fo inni, fel peth positif, cadarnhaol, sydd, gobeithio, yn mynd i roi y pwyslais ar les a pha mor hapus ydy plant yn yr ysgolion, ynghyd â'r ffaith eu bod nhw'n cael eu cefnogi i lwyddo i orau eu gallu, nid dim ond eu cefnogi i gyrraedd y graddau uchel hynny; efallai dyw'r gradd yna ddim y gorau ar gyfer y plentyn yna, o ran, os dydyn nhw ddim yn gallu cyrraedd yr A*, a bod y D neu beth bynnag yn mynd i fod y cyflawniad gorau posib, maen nhw'n hapus ac wedi eu cefnogi i gyrraedd hynny. Diolch.