Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r ffordd mae hi wedi croesawu'r diwygiadau. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Jest ar y pwynt wnaeth hi i gloi, mae cymwysterau yn dal yn mynd i fod yn bwysig, ac mae hynny'n rhan greiddiol o'r system, i sicrhau bod dysgwyr yn gadael yr ysgol gyda'r graddau a'r cymwysterau sydd y gorau posib iddyn nhw, ond nid dyna'r unig fesur. Mae mesurau helaethach na hynny hefyd, yn cynnwys rhai o ran llesiant, iechyd ac ati, fel roedd yr Aelod ei hunan yn sôn.
A'r hyn rwy'n credu sydd wrth wraidd y weledigaeth newydd hon yw mai, os hoffwch chi, eiddo'r disgybl yw'r broses o asesu; er budd y disgybl y mae honno'n cael ei defnyddio, nid er mwyn atebolrwydd yr ysgol. Felly, o ran darparu dysgu ac addysgu ddydd wrth ddydd neu dros gyfnod, neu hefyd impact o ran cohort, dyna beth yw pwrpas asesu. Mae'r atebolrwydd yn gwestiwn ar wahân i hynny.
Ond roedd yr Aelod yn gofyn sut mae hyn yn mynd i weithio o ran y berthynas rhwng yr ysgol a'r asiantaethau a'r cyrff eraill. Felly, wrth gwrs, mae'r corff llywodraethol yn atebol am berfformiad yr ysgol, a beth a welwn ni o dan y canllawiau newydd yw y bydd y consortia a'r gwasanaethau gwella safonau yn darparu adroddiad i'r llywodraethwyr o'r hyn maen nhw'n cytuno ei wneud ar ran yr ysgol, ac felly bydd y ddogfen honno ar gael, a bydd crynodeb o'r berthynas honno hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn ffordd sydd yn hygyrch yng nghrynodeb y cynllun datblygu ysgol. Felly, bydd e'n glir beth yw'r berthynas rhwng yr ysgol a'r gwasanaeth gwella ysgol, a'r gair pwysig yn hynny yw mai gwasanaeth yw e, felly darparu gwasanaeth i'r ysgol yw swyddogaeth y cyrff hynny. Mae hyn yn caniatáu, rwy'n credu, arweinwyr ysgol—mae'n eu grymuso nhw, i ddefnyddio'r gair roedd yr Aelod yn ei ddefnyddio—i allu gwneud penderfyniadau sydd ddim yn cael eu cymylu, os hoffwch chi, gan feddwl, 'Ydy hyn yn golygu y byddaf i mewn categori melyn neu wyrdd?' Mae'n caniatáu rhyddid i wneud y penderfyniadau cywir heb y pwysau hynny. Dyna pam mae'r newidiadau yma mor bwysig.
O ran rôl Estyn yn hyn o beth, wrth gwrs, rôl atebolrwydd fydd gan Estyn. Byddwn ni'n ddibynnol ar yr ymchwiliadau y maen nhw'n eu gwneud yn yr ysgolion, a hefyd ymchwiliadau o ran adolygiadau thematig. Bydd y gwaith maen nhw'n ei wneud o ran hynny'n bwysig hefyd. Bydd y cynllun newydd, y patrwm newydd, yn dechrau ymhen rhyw ddwy flynedd, felly mae cyfnod o ddwy flynedd gyda ni o'r system bresennol cyn bod y patrwm o ymweld yn amlach gydag ysgol yn dechrau. Wrth gwrs, mae Estyn yn dal i beilota'r ffordd newydd o wneud ymweliadau ysgol, felly bydd cyfnod dros y flwyddyn nesaf o gadw hynny mewn golwg i sicrhau dyw e ddim yn disproportionate, ond mae'r gefnogaeth bellach wedi ei rhoi i Estyn fel bod yr adnoddau gyda nhw i sicrhau bod hyn yn bosib.
Ar yr ieithwedd, dyw beth rŷn ni'n sôn amdano heddiw ddim am eiliad yn dwyn pwyslais oddi wrth y syniad bod ysgolion yn gwneud eu gorau dros bob un disgybl. Ac, o bryd i'w gilydd, mae ysgolion eu hunain yn cydnabod dydyn nhw ddim yn cyrraedd y nod mewn rhai ffyrdd, ac mae eisiau cael trafodaeth agored am hynny. Felly, dwi ddim moyn defnyddio ieithwedd sy'n gosod bai ac sydd yn gyhuddgar, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n defnyddio ieithwedd sydd yn agored a hefyd yn annog ac yn cefnogi'r ysgol i edrych am y gefnogaeth sydd ei angen yn y maes, beth bynnag sydd angen pwyslais. Bydd gan bob ysgol bwyslais gwahanol, yn dibynnu ar eu perfformiad nhw. Dwi'n credu ei fod e'n bwysig bod hynny'n dal yn elfen greiddiol o'r hyn rŷn ni'n sôn amdano heddiw.