Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am bolisi Llywodraeth y DU ar reolaethau ffiniau ar gyfer Prydain Fawr, y goblygiadau i Gymru a'n hamcanion allweddol fel Llywodraeth.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, Jacob Rees-Mogg AS, mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig ar 28 Ebrill eleni y byddai cyflwyno rhagor o reolaethau ar y ffin yn cael ei atal tan ddiwedd 2023. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n datblygu model gweithredu targed newydd i'w gyflwyno erbyn diwedd 2023. Rwy’n deall mai nod datganedig y model yw gwneud mewnforio ac allforio yn haws i fusnesau gan gynnal neu wella diogelwch a bioddiogelwch yn y DU. Hyd yma, ac ers fy natganiad llafar diwethaf, nid wyf wedi cael digon o fanylion na thystiolaeth o hyd i ddarparu mwy o wybodaeth nac eglurder ar hyn o bryd ar allu'r model newydd arfaethedig i gyflawni. Wrth gwrs, byddaf yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau pan fydd mwy o fanylion wedi'u rhannu â Llywodraeth Cymru.
Rwyf i wedi bod yn glir y dylai Gweinidogion sy'n gyfrifol am fioddiogelwch ar draws y tair gwlad ym Mhrydain Fawr gydweithio i gytuno ar egwyddorion a manylion cyfundrefn ffiniau'r dyfodol. Dylai hyn gael ei lywio gan gyngor cydgysylltiedig gan bob un o'n harbenigwyr technegol, fel y prif swyddogion milfeddygol, ynghyd â'r asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu ein hiechyd a chyflawni'r drefn ar lawr gwlad. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni sicrhau bod ymgysylltu cyson a dibynadwy gan Weinidogion er mwyn llunio'r blaenoriaethau strategol ac ystyried materion ymarferol. Mae Cymru a'r Alban yn parhau i geisio ymrwymiad ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd Cabinet Prydain Fyd-eang (Gweithrediadau), lle gellir gwneud penderfyniadau ar gyfundrefn Prydain Fawr yn y dyfodol gyda'i gilydd. Ysgrifennais at Mr Rees-Mogg ar 13 Mehefin yn ddiweddar, i bwysleisio hyn, ond nid wyf wedi cael ateb eto.
Dirprwy Lywydd, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU yn parhau i effeithio'n uniongyrchol ar gyfrifoldebau datganoledig gyda chanlyniadau ariannol sylweddol. Mae'r polisi hwn yn y DU wedi gofyn am lawer iawn o waith i ni a'n partneriaid. Hyd yma, rydym ni wedi gwario £6 miliwn o arian cyhoeddus er mwyn sicrhau'r cynnydd sydd ei angen yn erbyn cefndir hynod ansicr. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ariannu costau hollol angenrheidiol swyddi rheoli ffiniau adeiladu, ac rydym ni’n llwyr ddisgwyl i'r ymrwymiad hwn gael ei anrhydeddu.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cychwynnol i atal y gwaith o ddatblygu swyddi rheoli ffiniau yng Nghymru er mwyn pwyso a mesur yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Brexit am gyfleoedd ym mis Ebrill. Gallaf gadarnhau bod Cabinet Llywodraeth Cymru bellach wedi ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ac wedi cytuno i ailddechrau gweithio ar gam dylunio cyfleusterau swyddi parhaol rheoli ffiniau Caergybi. Yn ddiweddarach eleni, bydd angen i ni benderfynu a ddylid symud ymlaen i'r cam adeiladu, sydd wrth gwrs yn amodol ar gyllid gan Drysorlys y DU. Os felly, dylem fod â chyfleuster yng Nghymru erbyn diwedd 2023, pan fydd Llywodraeth y DU yn targedu cyflwyno'r drefn newydd. Os na allwn ni symud ymlaen i'r cam adeiladu, yna mae'n annhebygol y gellir cyflawni swydd rheoli ffiniau barhaol yng Nghaergybi erbyn diwedd 2023. Byddai cynnydd tebygol yn y gost hefyd.
Mae hyn yn dangos yn glir fwriad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i wneud pob ymdrech i sicrhau bod y polisi etifeddol hwn yn cael ei weithredu mor effeithiol â phosibl. Rydym ni’n cydnabod yr angen i sicrhau bod gennym ni’r systemau cywir ar waith ar gyfer mewnforio nwyddau mewn modd diogel ac effeithlon. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn rhoi eglurder mae mawr ei angen ar fusnesau yng Nghymru, a pham ei bod hi mor bwysig bod Gweinidogion y DU yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol â Gweinidogion llywodraeth genedlaethol datganoledig.
Dirprwy Lywydd, fel y nodais i yn fy natganiad llafar ar 3 Mai, mae angen i ni ddeall cynigion manwl Llywodraeth y DU ar sut i drin nwyddau o ynys Iwerddon. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi cyflwyno Bil Protocol Gogledd Iwerddon yn Senedd y DU sydd â'r bwriad o dorri'r rhwymedigaethau y mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo iddyn nhw. Mae hyn wedi arwain at ymateb anochel gan yr UE. Dirprwy Lywydd, rwy'n siŵr na fyddwch chi’n synnu at y ffaith bod y camau hyn wedi'u cymryd heb unrhyw ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 17 Mai, yn dweud na ddylai Llywodraeth y DU weithredu'n unochrog ond y dylai barhau â'r ddeialog â'r UE a nodi canlyniadau tebygol gweithredu o'r fath. Dirprwy Lywydd, fel y gwyddoch chi, ysgrifennais at y Llywydd ar y mater hwn ddoe a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig hefyd i'r Aelodau yn gynharach heddiw.
Mae'r cam gweithredu hwn unwaith eto'n gwbl groes i'r ffyrdd o weithio a ragwelir yn yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol a'r fframweithiau cyffredin. Mae er budd pob un ohonom ni, nid yn unig ar gyfer bioddiogelwch ond er mwyn ein rhagolygon economaidd ehangach, er mwyn sicrhau gwelliant sylweddol yn y ffordd mae Llywodraethau yn y DU yn parchu ac yn gweithio gyda'i gilydd. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddatblygiadau.