Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 28 Mehefin 2022.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog nid yn unig am roi golwg gynnar ar y datganiad hwn, ond am y diweddariadau rheolaidd mae ef a'i dîm wedi'u rhoi i Aelodau lleol ar y mater hwn? Rwy’n siŵr y bydd y datganiad heddiw'n cael ei groesawu fel eglurhad yn dilyn y sefyllfa ansicr a amlinellwyd yn eich datganiad diwethaf. Fel yr ydych chi wedi'i amlinellu'n briodol, mae rheoli'r sefyllfa hon yn ganolog i'w llwyddiant. Os ydym ni am sicrhau canlyniad llwyddiannus ar gyfer lleoliadau porthladdoedd fel Ynys Môn a sir Benfro, yna mae deialog bwrpasol gyda'r holl randdeiliaid yn hanfodol.
Rhaid i ni fod yn barod ar gyfer cyflymu rhaglen ddigideiddio Llywodraeth y DU, a all, yn ei thro, sicrhau pontio llyfn o'r hinsawdd bresennol ac i un sy'n ymgorffori'r posibilrwydd o fasnachu di-ffrithiant sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn wir, rai misoedd yn ôl, nododd Gweinidog Llywodraeth y DU dros gyfleoedd Brexit ei resymeg dros leihau amlygrwydd rheolaethau ffiniau'r Deyrnas Unedig ar nwyddau'r UE, ac roedd yn iawn i wneud hynny. Gyda chostau byw cynyddol, ynghyd â phrisiau ynni uwch, mae angen annog masnach, gan fod o fudd i fusnesau a defnyddwyr fel ei gilydd.
Mewn sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwyd gennych chi, Gweinidog, mae'n amlwg bod yn rhaid i'ch Llywodraeth barhau i ddilyn ei chamau gweithredu presennol. Ac, o gofio bod £6 miliwn o arian cyhoeddus eisoes wedi'i fuddsoddi yn y safle, fel y gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad, byddai'n niweidiol atal y cynnydd hwn, gan beryglu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu cost adeiladu swyddi rheoli ffiniau. Ond, pe bai buddsoddiad pellach yn safle Ynys Môn, yna mae cydweithredu'n allweddol. O weld bod Llywodraeth y DU yn adolygu eu gweithdrefnau ac yn bwriadu cyhoeddi model gweithredu targed yn ddiweddarach eleni, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y model yn datblygu. Ond, yn ganolog i'r newid hwn i gyfundrefn newydd ddi-ffrithiant mae'r posibilrwydd o system wedi'i digideiddio, un sy'n canoli'r holl wybodaeth drwy un ffenestr fasnach.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai eu bwriad yw i hyn fod ar waith erbyn 2024. Yn eich datganiad diwethaf ar y mater hwn, fe wnaethoch chi ddweud mai ychydig o sgwrs a gafwyd am beth yw'r dechnoleg hon neu, yn wir, sut y bydd yn edrych. Nawr, gan eich bod chi wedi cadarnhau eich bwriad i fuddsoddi'n helaeth yn safle Ynys Môn a pharhau i ddatblygu'r BCP, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi y dylai'r safle hwn gael ei ddiogelu at y dyfodol er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â chyflwyno'r dechnoleg dan sylw. Felly, Gweinidog, sut ydych chi’n mynd i sicrhau bod datblygiad BCP yn Ynys Môn yn cael ei ddiogelu yn y dyfodol yn erbyn newidiadau posibl mewn gofynion technolegol?
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, byddai'n esgeulus i mi beidio â chyffwrdd â'r newidiadau yn y gorllewin, yn enwedig y rheini sy'n effeithio ar borthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun. Yn unol â'ch datganiad ysgrifenedig diwethaf ar y mater hwn, fe wnaethoch chi gadarnhau bod Johnston wedi'i derfynu ers hynny, yn eich geiriau chi, fel lleoliad BCP posibl. Yn yr un datganiad ysgrifenedig, fe wnaethoch chi ddweud nad yw cydgrynhoi cyfleusterau rheoli ffiniau ar un llain bellach yn rhagofyniad. Rydych chi wedi dweud yn y datganiad y prynhawn yma fod yn rhaid i ni gael y systemau cywir ar waith ar gyfer mewnforio nwyddau mewn modd diogel, saff ac effeithlon. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwybod pa sgyrsiau, os o gwbl, rydych chi wedi'u cael am botensial datblygu cyfleusterau yn y porthladdoedd eu hunain yn y gorllewin.
Ac wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg i mi, er mwyn i hyn fod yn llwyddiant, y dylai cydweithredu a chyfathrebu ddod yn nodwedd angenrheidiol o'r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac rwyf i’n gobeithio ac yn annog y ddwy Lywodraeth ar y naill ben a'r llall i'r M4 i gydnabod y gwerth hwn. Diolch yn fawr.