Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 28 Mehefin 2022.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau, ac yn arbennig natur adeiladol gyffredinol y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf i ddelio â'r pwyntiau am sir Benfro yn gyntaf, ac yna byddaf yn dod i Ynys Môn a'r porthladd yng Nghaergybi, a'r cwestiynau ehangach a ofynnwyd.
Felly, o ran Caergybi, mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda'r cyngor sir a'r porthladd i sicrhau bod masnach yn parhau i lifo. Ond, er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gael golwg mor gynnar â phosibl ar drefniadau newydd Llywodraeth y DU y maen nhw’n bwriadu eu rhoi ar waith erbyn diwedd 2023, ac mae hynny'n bwysig wedyn i'ch cwestiwn ynghylch sut olwg fydd ar swyddi rheoli ffiniau newydd ar gyfer y porthladdoedd sy'n wynebu gorllewin Cymru. Yr her gyda hynny yw bod angen i ni, yn y de-orllewin, ddeall a yw'r gostyngiad mewn masnach sydd wedi digwydd yn barhaol, oherwydd mae hynny wedyn yn newid y gofyniad i gael y cyfleusterau. Ac fel y gwyddoch chi, mae da byw mewn gwirionedd yn dod drwy borthladd de-orllewin Cymru, ac nid drwy Gaergybi. Felly, mewn gwirionedd, mae gwir angen i ni ddeall beth fydd yr atebion technoleg, a faint o wirio corfforol y bydd angen ei wneud.
Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd i ragweld sut y bydd datrysiad technoleg yn osgoi'r angen i gael archwiliadau ffisegol ar gyfer da byw. Ac felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y bydd angen i ni gynllunio ynddo. Mae hefyd yn bosibl—yn bosibl, ond nid yn sicr—y byddwn ni’n gallu cael archwiliadau'n llawer agosach at y porthladdoedd, os nad o fewn y cwrtil, ffin y porthladdoedd. Dyna pam mae angen i ni ymgysylltu'n uniongyrchol cyn gynted â phosibl ynghylch beth fydd y model gweithredu newydd. Dyna pam mae angen i ni rannu'r arwyddion am ddata masnach. Dyna pam mae'r rheoleidd-dra a'r sicrwydd mewn masnach ag ynys Iwerddon mor bwysig i ni, oherwydd bydd yn effeithio ar y dewisiadau mae'n rhaid i ni eu gwneud a'r defnydd o arian cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio amser gweision sifil ar y mater hwn.
O ran y pwynt ehangach a'r pwyntiau o amgylch Caergybi yn benodol, ni allaf ddweud wrthych chi sut y bydd y model gweithredu newydd yn gweithio oherwydd mae angen i ni gael yr ymgysylltiad hwnnw o hyd. Rhaid iddi wneud synnwyr i bob un o'r tair gwlad ym Mhrydain Fawr ddefnyddio'r un model, yn hytrach na bod â modelau cwbl wahanol, oherwydd fel arall os ystyrir bod un yn wannach neu â llai o ofynion, yna byddwch chi’n dargyfeirio masnach i rywle arall ac efallai y byddwch chi’n peryglu diogelwch a bioddiogelwch hefyd. Mae angen i ni hefyd allu rhannu gwybodaeth. Nawr, mae'n sicr bod hynny'n golygu y dylem ni fod yn rhan o'r cam dylunio, yn ogystal â chomisiynu pa bynnag ateb technoleg sy'n mynd i fynd o gwmpas hynny, p’un a yw'n gwneud cymaint ag y byddai rhai rhannau o'r DU am iddo ei wneud. Ond, i ddod i beth bynnag yw'r ateb hwnnw yn ymarferol, dylem fod yn rhan o'r cam dylunio, ac nid dim ond rhoi system i ni y dywedir wrthym ni wedyn am ei defnyddio, neu hyd yn oed dweud wrthym ni am ei defnyddio ac yna gofyn i ni dalu am ddarn ohono hefyd. Felly, byddai'n llawer gwell gennyf i gael y sgyrsiau ymarferol a bwriadol hynny, oherwydd mae gennyf i ddiddordeb mewn gwneud hyn yn iawn.
O ran diogelu swyddi rheoli ffiniau yn y dyfodol, rydym ni’n wynebu'r realiti diamheuol hwn, os na fyddwn yn symud ymlaen gyda'r cam dylunio yng Nghaergybi, fyddwn ni ddim yn barod, ni fyddwn ni’n gallu masnachu bryd hynny, ac mewn gwirionedd mae pwysau llawer mwy yng Nghaergybi oherwydd y nifer fawr o fasnach sy'n dod drwodd yno. Felly, bydd yn rhaid i ni wneud hynny neu mae perygl na fyddwn ni’n gallu mewnforio'n llwyddiannus drwy Gaergybi, sef y porthladd rholio-i-ffwrdd prysuraf ond un yn y DU. Felly, mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud hynny.
Wrth ddelio â'r dyluniad, bydd angen i ni gael rhywfaint o hyblygrwydd ynddo, oherwydd dydyn ni ddim yn sicr o hyd pryd mae'r model gweithredu'n dod i mewn. Nid oes angen i ni wneud dewisiadau am gam adeiladu hynny tan yr hydref, a dylem gael mwy o fanylion am y model gweithredu erbyn hynny. Dyna'r disgwyliad rydym ni’n gweithio iddo, ond, unwaith eto, mae hynny'n gofyn am ymgysylltiad priodol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ar lefel swyddogol a gweinidogol.
Rwy’n credu eich pwynt ynglŷn â chydweithredu a chyfathrebu, rydw i’n cytuno'n llwyr â hynny. Mae'n rhan o'm rhwystredigaeth wirioneddol ynghylch pam rydym ni yma eto heddiw, a lle yr hoffwn i ni fod i roi sicrwydd i fusnesau, a bydd Aelodau lleol o fwy nag un blaid wleidyddol yn y Siambr am wybod beth yw dyfodol y porthladdoedd a'r cymunedau a'r busnesau maen nhw’n eu cynrychioli. Ac rwy'n cydnabod bod yr Aelod yn arddel y farn eang honno hefyd.
Nid y risg yw'r perygl y byddwn ni’n mynd yn ein blaenau ac yn gwneud rhywbeth sy'n torri ar draws lle mae Llywodraeth y DU am fod; y risg yw bod gennym ni newid arall eto ar fyr rybudd a diffyg ymgysylltu sy'n golygu bod yn rhaid i ni ail-lunio ein cynlluniau i'r mannau lle na fyddant yn diwallu anghenion sicrwydd y byddai pob busnes a swydd sy'n dibynnu ar y fasnach honno am ei chael. Ac mewn gwirionedd, os ydym ni am gael masnach ddi-ffrithiant, mae angen gwneud dewisiadau ar yr hyn mae hynny'n ei olygu. Ar ôl dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n anodd iawn cyflawni masnach ddi-ffrithiant, o ystyried y dewisiadau sydd wedi'u gwneud hyd yma o amgylch yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Felly, bydd angen elfen o wirio i ni allu masnachu â rhannau eraill o Ewrop, ac, yn benodol, ynys Iwerddon.
Felly, dydw i ddim yn credu bod modd cyflawni masnach gwbl ddi-ffrithiant, o ystyried y dewisiadau sydd wedi'u gwneud am y realiti ar ôl Brexit. Ond, os gallwn ni leihau'r drwgdeimlad i wneud masnach yn haws, byddai gennyf i ddiddordeb mewn gwneud hynny mewn ffordd sydd, fel y dywedais i, yn bodloni profion bioddiogelwch, diogelwch ac effeithlonrwydd. Dyna fydd y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r gwaith hwn o hyd, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n wir mewn perthynas â Llywodraeth y DU.