Part of the debate – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
Cynnig NDM8041 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod dros 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.
2. Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.
3. Yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y pandemig.
4. Yn cydnabod yr ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:
a) sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu diabetes math 2;
b) gwneud cynnydd tuag at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; ac
c) sicrhau gofal hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.
5. Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.