10. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:51, 29 Mehefin 2022

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Eitem 8 fydd y bleidlais gyntaf, sef dadl y Ceidwadwyr ar ddiabetes. Mae'r bleidlais ar y cynni a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 10 yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 26, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3765 Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 14 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:52, 29 Mehefin 2022

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, felly, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 14 yn ymatal, 10 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi'i gymeradwyo.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 10, Ymatal: 14

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 3766 Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 26 ASau

Na: 10 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 14 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 29 Mehefin 2022

Mae gwelliant 2, felly, wedi'i ddad-dethol.

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:53, 29 Mehefin 2022

Gwelliant 3 yw'r bleidlais nesaf—gwelliant 3—a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—25 o blaid, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Ac felly dwi'n arddel fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3767 Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian

Ie: 25 ASau

Na: 25 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:54, 29 Mehefin 2022

Gwelliant 4 fydd nesaf—gwelliant 4—a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal a 25 yn erbyn. Felly, dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 4. Canlyniad y bleidlais, felly, yn derfynol, yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal a 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3768 Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diabetes. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian

Ie: 25 ASau

Na: 25 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 29 Mehefin 2022

Dwi'n galw nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1.

Cynnig NDM8041 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod dros 209,015 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes a bod gan Gymru'r nifer fwyaf o achosion o ddiabetes yng ngwledydd y DU.

2. Yn mynegi pryder am y cynnydd cyflym yn y diagnosis o ddiabetes dros yr 20 mlynedd diwethaf.

3. Yn cydnabod bod gwaith ar y gweill i adfer gwasanaethau arferol i bobl â diabetes yn dilyn effaith y pandemig.

4. Yn cydnabod yr ymrwymiad sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru i:

a) sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach sy'n lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn datblygu diabetes math 2;

b) gwneud cynnydd tuag at gynnig cyfle i'r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yn ystod y chwe blynedd diwethaf gael mynediad at wasanaeth lleddfu diabetes; ac

c) sicrhau gofal hygyrch sy'n canolbwyntio ar y claf i bobl â diabetes, yn ogystal â defnyddio technoleg ac addysg i'w helpu i reoli eu cyflwr yn well.

5. Yn nodi bod gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid i ddatblygu datganiad ansawdd diabetes i'w gyhoeddi yn yr hydref.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 29 Mehefin 2022

Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 14 yn ymatal a 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei gymeradwyo.

Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Diabetes. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 10, Ymatal: 14

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 3769 Eitem 8 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Diabetes. Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 26 ASau

Na: 10 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 10 ASau

Wedi ymatal: 14 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:56, 29 Mehefin 2022

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Gystadleuaeth Cân Eurovision 2023. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 10 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3770 Eitem 9 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023. Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 40 ASau

Absennol: 10 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 10 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw