Cyllidebu ar Sail Rhywedd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:31, 29 Mehefin 2022

Diolch yn fawr. GDP ydy’r mesur mwyaf cyffredin o incwm cenedlaethol—model sydd, wrth gwrs, yn mesur maint y gacen a faint rydym ni yn ei gynhyrchu efo'n hadnoddau ni yn hytrach na safon byw a chydraddoldeb. Ac mi fyddai cyllidebu ar sail rhywedd yn defnyddio offerynnau fel gwerthusiadau polisi ac asesiadau effaith er mwyn inni fod yn ymwybodol o’r holl ffyrdd y mae cyllidebau’r Llywodraeth a pholisi cyllidol yn effeithio’n wahanol ar fenywod a dynion.

Un enghraifft o ddefnyddio’r offerynnau yma ydy gallu asesu penderfyniadau cyllido gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn effeithio ar fenywod yn fwy sylweddol na dynion gan fod yna fwy o fenywod yn gweithio yn y sector cyhoeddus nag sydd yna o ddynion. Ac mae hynny'n fwy perthnasol fyth i Arfon ac i Wynedd—Gwynedd ydy'r trydydd yng Nghymru o ran cyfradd y gweithwyr sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut mae penderfyniadau gwariant y Llywodraeth a pholisi cyllidol yn cael eu gwneud drwy'r lens benodol yma ac i ba raddau maen nhw'n cael eu cymeradwyo gan sefydliadau fel Grŵp Cyllideb Menywod Cymru.