Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am ei chwestiwn. Credaf ei bod yn nodi pam ei bod mor bwysig inni ddechrau edrych ar ein cyllideb drwy wahanol lensys. Mae cynnyrch domestig gros yn ffynhonnell ddata bwysig ac mae gennym rywfaint o ddata arbrofol sy’n edrych ar gynnyrch domestig gros ar lefel sy'n benodol i Gymru. Nid yw’n ddefnyddiadwy eto, ond fel y dywed Siân Gwenllian, dim ond un ffordd o edrych ar bethau yw honno ac mae'n rhaid inni edrych ar bethau’n fwy creadigol er mwyn inni gael dealltwriaeth briodol o effaith ein penderfyniadau cyllidebu ar wahanol grwpiau yn y gymdeithas ac er mwyn gallu ystyried ein penderfyniadau yn groestoriadol hefyd. A dyma un o'r rhesymau pam fod cynllun gwella'r gyllideb yn amlinellu ein gweledigaeth ac yn cynnwys camau gweithredu tymor byr a'r uchelgeisiau tymor canolig sydd gennym dros y pum mlynedd nesaf i wella'r broses o bennu ein cyllidebau yma yng Nghymru drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel rhan o’r cynllun hwn, mae gennym dri chynllun peilot cyllidebu ar sail rhywedd ar y gweill ar hyn o bryd, a bydd pob un ohonynt yn cael eu hasesu’n annibynnol a bydd y canfyddiadau hynny wedyn yn ein galluogi i sicrhau bod y dysgu hwnnw’n llywio ein proses gyllidebu yn fwy cyffredinol ar draws y Llywodraeth.
Mae nifer wedi nodi pwysigrwydd ymgysylltu ar raddfa eang hefyd. Felly, rydym yn parhau i ymgysylltu â Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a phartïon eraill a chanddynt fuddiant drwy’r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb ar ei newydd wedd, ac mae hynny, unwaith eto, yn ein helpu i ddatblygu ein hymagwedd at gyllidebu ar sail rhywedd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod gan y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd hon gryn ddiddordeb yn y mater hwn. Ar yr un pryd, rydym yn edrych yn rhyngwladol ac yn gweithio gyda rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant i gryfhau ein cysylltiadau ag arweinwyr y byd yn y maes hwn, gan gynnwys yng Ngwlad yr Iâ a Chanada. Felly, mae llawer i’w ddysgu, ond credaf y bydd ein tri chynllun peilot yn gryn dipyn o gymorth i ni o ran meddwl yn wahanol am y ffordd yr edrychwn ar ein cyllidebau yma yng Nghymru.