Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae monitro'n rhan allweddol o brosesau grant Llywodraeth Cymru. Mae gan reolwyr grantiau hyblygrwydd i deilwra gofynion monitro yn ôl maint, gwerth a risg prosiectau. Nodir gofynion monitro yn nhelerau ac amodau'r llythyr dyfarnu grant, sy'n ffurfio'r cytundeb sy'n rhwymo mewn cyfraith rhwng Llywodraeth Cymru a'r derbynwyr.