Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch ichi am godi hynny. Ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd gennym yn ôl ym mis Rhagfyr, darparodd y prif economegydd ddiweddariad o'i asesiad o'r effaith, a oedd yn cynnwys effaith Brexit, a byddwn yn cymeradwyo hwnnw i bob un o'r cyd-Aelodau. Gwyddom ein bod wedi colli, neu fod y DU, dylwn ddweud, wedi colli biliynau lawer o bunnoedd mewn treth, o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei niweidio o ganlyniad uniongyrchol i hynny; nid oes amheuaeth am hynny. Byddaf yn cael gyfle i godi'r mater penodol hwn y prynhawn yma, yn un o'n cyfarfodydd rhyngweinidogol gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn ystyried y pwyntiau y mae Alun Davies wedi'u gwneud, ac yn eu defnyddio i lywio fy nghyfraniad yn y cyfarfod hwnnw.