Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Mehefin 2022.
Weinidog, mae polisi economaidd cryf Llywodraeth y DU ers 2010, a chael cynllun economaidd hirdymor, wedi helpu i sicrhau'r setliad gorau y mae Cymru wedi'i gael erioed: gwerth £18 biliwn o gyllid eleni. Ac oherwydd polisïau economaidd cryf Llywodraeth y DU, mae gennym y gronfa ffyniant bro, y gronfa adfywio cymunedol, bargeinion dinesig a thwf, porthladdoedd rhydd, buddsoddiad mewn ynni gwyrdd a'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd yn fy etholaeth, a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Deunaw biliwn o bunnoedd yn ychwanegol eleni, ac rydych yn dal i fod yn cwyno am Brexit. Mawredd. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y bydd economi Cymru yn tyfu oherwydd Llywodraeth Geidwadol gref yn y DU, gyda pholisïau economaidd cryf, oherwydd y budd i economi ehangach y DU, ac y bydd gennych fwy o arian yn Nhrysorlys Llywodraeth Cymru?