Perchnogaeth Gyfrifol ar Anifeiliaid Anwes

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:21, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #ArosAtalAmddiffyn yn rhedeg yn bennaf dros gyfnod y Nadolig a'i bod yn eithaf tymhorol a chyfyngedig, ac yn canolbwyntio ar brynu cyfrifol mewn perthynas ag anifeiliaid anwes. Mae'n amlwg yn ymgyrch lwyddiannus, ond yn eithaf cyfyngedig. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, mae ganddynt Petfished, ymgyrch hirdymor i godi ymwybyddiaeth o brynu anifeiliaid anwes, ac yn yr Alban, mae gan Lywodraeth yr Alban ymgyrch Buy a Puppy Safely—mae gan y ddwy ymgyrch wefannau pwrpasol, parhaus ac adnoddau codi ymwybyddiaeth, ac mae'r ddwy wedi'u hategu gan fesurau codi ymwybyddiaeth eraill hefyd.

Fe fyddwch yn ymwybodol, fel y mae llawer ohonom, rwy'n siŵr, fod y mynegai caredigrwydd tuag at anifeiliaid newydd gan yr RSPCA yn awgrymu bod 19 y cant o'r bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yn poeni am brynu bwyd i'w hanifeiliaid anwes yng nghanol yr argyfwng costau byw. Mae'r RSPCA eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid a dderbynnir i ganolfannau'r RSPCA, yn cynnwys 49 y cant yn fwy o gwningod, 14 y cant yn fwy o gathod a 3 y cant yn fwy o gŵn yn ystod pum mis cyntaf 2022. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddefnyddio ymgyrch hyrwyddo barhaol i gyfeirio perchnogion at y pecynnau cymorth sydd ar gael mewn mannau eraill, a allai fod yn ddefnyddiol iawn i berchnogion sy'n ansicr lle i droi, os na allwn gychwyn ein hymgyrch barhaol ein hunain?