2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2022.
1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus rheolaidd ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes i wrthbwyso'r risg o gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu gadael o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58257
Diolch. Mae ein hymgyrch #ArosAtalAmddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo prynu cyfrifol ac yn ein hatgoffa o'r costau gydol oes sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar anifail anwes. Rydym hefyd yn parhau i gysylltu â'n partneriaid yn y trydydd sector i gefnogi eu gwaith i hyrwyddo disgwyliadau ynghylch perchnogaeth gyfrifol, yn enwedig wrth i bwysau gynyddu ar gyllidebau aelwydydd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #ArosAtalAmddiffyn yn rhedeg yn bennaf dros gyfnod y Nadolig a'i bod yn eithaf tymhorol a chyfyngedig, ac yn canolbwyntio ar brynu cyfrifol mewn perthynas ag anifeiliaid anwes. Mae'n amlwg yn ymgyrch lwyddiannus, ond yn eithaf cyfyngedig. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, mae ganddynt Petfished, ymgyrch hirdymor i godi ymwybyddiaeth o brynu anifeiliaid anwes, ac yn yr Alban, mae gan Lywodraeth yr Alban ymgyrch Buy a Puppy Safely—mae gan y ddwy ymgyrch wefannau pwrpasol, parhaus ac adnoddau codi ymwybyddiaeth, ac mae'r ddwy wedi'u hategu gan fesurau codi ymwybyddiaeth eraill hefyd.
Fe fyddwch yn ymwybodol, fel y mae llawer ohonom, rwy'n siŵr, fod y mynegai caredigrwydd tuag at anifeiliaid newydd gan yr RSPCA yn awgrymu bod 19 y cant o'r bobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yn poeni am brynu bwyd i'w hanifeiliaid anwes yng nghanol yr argyfwng costau byw. Mae'r RSPCA eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid a dderbynnir i ganolfannau'r RSPCA, yn cynnwys 49 y cant yn fwy o gwningod, 14 y cant yn fwy o gathod a 3 y cant yn fwy o gŵn yn ystod pum mis cyntaf 2022. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddefnyddio ymgyrch hyrwyddo barhaol i gyfeirio perchnogion at y pecynnau cymorth sydd ar gael mewn mannau eraill, a allai fod yn ddefnyddiol iawn i berchnogion sy'n ansicr lle i droi, os na allwn gychwyn ein hymgyrch barhaol ein hunain?
Byddaf yn sicr yn ystyried edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud yn fwy parhaol, ond rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu negeseuon gan sefydliadau eraill ar berchnogaeth gyfrifol yn rheolaidd. Yr wythnos diwethaf, roedd gennym un ar ofalu am anifeiliaid mewn tywydd poeth, er enghraifft, a gadael cŵn, yn enwedig, mewn ceir. Felly, rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu llawer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, a byddwn yn annog holl Aelodau'r Senedd i wneud hynny hefyd. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, mae'r un neu ddwy o ganolfannau achub y gallais ymweld â hwy eleni wedi gweld cynnydd, yn anffodus, yn nifer yr anifeiliaid anwes y maent yn gorfod eu derbyn. Yn amlwg, rydym wedi cael pobl yn prynu anifeiliaid anwes yn ystod y pandemig COVID ac yna, pan fyddant wedi gorfod mynd yn ôl i weithio'n llawn amser efallai, maent wedi sylweddoli cymaint o anawsterau sydd ynghlwm wrth ofalu am anifail anwes pan fyddant yn ôl yn y gwaith, a'r argyfwng costau byw wedyn, fel rydych newydd ei nodi. Ond rwy'n sicr yn agored i unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gweld beth y gallem ei wneud yn fwy parhaol.
Weinidog, mae gadael anifeiliaid anwes yn fater o bwys ac mae wedi bod yn broblem fawr erioed. I rai o drigolion cartrefi, rhaid iddynt adael eu hanifeiliaid anwes oherwydd yn y sector rhentu, mae rhai landlordiaid yn dweud na chaniateir unrhyw anifeiliaid anwes. Yn San Steffan, maent yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn diddymu hynny ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i landlordiaid fynnu na ellir mynd ag anifeiliaid anwes i gartrefi, yn enwedig pan fo'r anifail yn anifail anwes sy'n chwarae rhan bwysig yn iechyd meddwl yr unigolyn hwnnw. A ydych yn bwriadu ystyried y ddeddfwriaeth honno sy'n mynd drwy San Steffan, ac a wnewch chi, ar y cyd â'ch cyd-Weinidog, y Gweinidog tai, ystyried mesurau tebyg yma yng Nghymru?
Yn sicr, mae'n rhywbeth a drafodais gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai wrth gwrs. Ac fel y gwyddoch, mae'n debyg, yr wythnos nesaf, byddwn yn trafod deddfwriaeth arfaethedig Luke Fletcher ynghylch cymalau dim anifeiliaid anwes. Rwy'n siŵr y byddwn, fel Gweinidogion, yn cael trafodaethau pellach gyda Luke.
Weinidog, yn ddiweddar ymwelodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, a minnau â Hope Rescue ger Llanharan. Gwelsom y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud, ond roeddent yn dweud wrthym am y cynnydd enfawr yn nifer yr ymholiadau y maent yn eu cael gan berchnogion sy'n gofyn, 'Sut y gallaf fforddio cadw fy anifail anwes yn awr? Sut y gallaf ei fwydo? Sut y gallaf dalu ffioedd milfeddyg? Sut y gallaf dalu am yswiriant?' Maent hefyd yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn gadael anifeiliaid anwes, niferoedd llawer uwch na'r hyn y maent erioed wedi'i weld o'r blaen. Rydym wedi gweld yr un peth gyda Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd. Oherwydd hyn, a fyddech yn ymrwymo i gyfarfod â'r bobl awdurdodol yn y maes i weld sut y gallant weithio nid yn unig gyda'r cŵn a'r anifeiliaid anwes sy'n cael eu cyflwyno iddynt, ond hefyd gyda'r perchnogion i roi cyngor da iddynt, fel nad oes rhaid iddynt adael yr anifeiliaid anwes hynny, a sicrhau bod ffynonellau eraill o gymorth ar gael, yn hytrach na'u bod yn crwydro neu'n cael eu gadael, neu'n cael eu hel i ganolfannau achub fel Hope Rescue?
Diolch am hynny. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â chanolfan Hope Rescue. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chanolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd i fyny yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i helpu pobl sy'n amlwg yn wynebu penderfyniadau anodd iawn. Ac yn sicr, unwaith eto, ar ôl cyfarfod â pherchnogion, maent yn dweud wrthyf y byddent yn bwydo eu hanifeiliaid anwes cyn bwydo eu hunain, pe byddent yn wynebu penderfyniad o'r fath. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i ymgysylltu, yn enwedig gyda'r trydydd sector, i weld beth arall y gallwn ei wneud i gynorthwyo.