Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 29 Mehefin 2022.
Weinidog, yn ddiweddar ymwelodd fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, a minnau â Hope Rescue ger Llanharan. Gwelsom y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud, ond roeddent yn dweud wrthym am y cynnydd enfawr yn nifer yr ymholiadau y maent yn eu cael gan berchnogion sy'n gofyn, 'Sut y gallaf fforddio cadw fy anifail anwes yn awr? Sut y gallaf ei fwydo? Sut y gallaf dalu ffioedd milfeddyg? Sut y gallaf dalu am yswiriant?' Maent hefyd yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn gadael anifeiliaid anwes, niferoedd llawer uwch na'r hyn y maent erioed wedi'i weld o'r blaen. Rydym wedi gweld yr un peth gyda Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd. Oherwydd hyn, a fyddech yn ymrwymo i gyfarfod â'r bobl awdurdodol yn y maes i weld sut y gallant weithio nid yn unig gyda'r cŵn a'r anifeiliaid anwes sy'n cael eu cyflwyno iddynt, ond hefyd gyda'r perchnogion i roi cyngor da iddynt, fel nad oes rhaid iddynt adael yr anifeiliaid anwes hynny, a sicrhau bod ffynonellau eraill o gymorth ar gael, yn hytrach na'u bod yn crwydro neu'n cael eu gadael, neu'n cael eu hel i ganolfannau achub fel Hope Rescue?