Perchnogaeth Gyfrifol ar Anifeiliaid Anwes

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:24, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae gadael anifeiliaid anwes yn fater o bwys ac mae wedi bod yn broblem fawr erioed. I rai o drigolion cartrefi, rhaid iddynt adael eu hanifeiliaid anwes oherwydd yn y sector rhentu, mae rhai landlordiaid yn dweud na chaniateir unrhyw anifeiliaid anwes. Yn San Steffan, maent yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn diddymu hynny ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i landlordiaid fynnu na ellir mynd ag anifeiliaid anwes i gartrefi, yn enwedig pan fo'r anifail yn anifail anwes sy'n chwarae rhan bwysig yn iechyd meddwl yr unigolyn hwnnw. A ydych yn bwriadu ystyried y ddeddfwriaeth honno sy'n mynd drwy San Steffan, ac a wnewch chi, ar y cyd â'ch cyd-Weinidog, y Gweinidog tai, ystyried mesurau tebyg yma yng Nghymru?