Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 29 Mehefin 2022.
Weinidog, nid oes neb yn poeni mwy am les milgwn na Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Mae'r bwrdd yn ymdrechu'n gyson i leihau'r posibilrwydd o anafiadau i filgwn drwy ariannu gwelliannau i'r traciau, gwelliannau i gybiau cŵn a sicrhau bod milfeddygon annibynnol yn bresennol ar bob trac Bwrdd Milgwn Prydain Fawr i archwilio iechyd a lles milgwn cyn ac ar ôl rasio. A ydych yn cytuno, Weinidog, mai'r ffordd orau o sicrhau lles milgwn yw drwy gael rasio wedi'i reoleiddio'n briodol fel chwaraeon gwylwyr rheoledig, yn hytrach na'i orfodi i fod yn danddaearol gyda'r risg o rasio anghyfreithlon a pheryglus, a fyddai ond yn cynyddu nifer yr anafiadau i filgwn? Diolch.