Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch, Jane Dodds. Gallwch fod yn gwbl sicr y byddaf yn parhau i roi pwysau ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at berchennog newydd y trac rasio yn ôl ym mis Mawrth. Nid wyf wedi cael unrhyw ymateb eto, er fy mod wedi mynd ar drywydd y llythyr hefyd, ac fe gyfarfûm â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr hefyd i weld beth yn ychwanegol y gallwn ei wneud. Yn amlwg, yn awr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel y dywedoch chi, wedi cael o leiaf chwe archwiliad yn y stadiwm, gyda milfeddyg bob amser yn bresennol, ac mae'n bwysig iawn fod yr archwiliadau hynny'n parhau a bod milfeddyg yn bresennol. Felly, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau ei fod yn parhau, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.