Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Mehefin 2022.
I adeiladu ar gwestiwn Jane, ac mae'n gwestiwn y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl bob tro y mae'n gweld cwestiwn am filgwn rwy'n siŵr, neu os oes unrhyw gyfle imi gysylltu milgwn â chwestiwn atodol, roeddwn yn meddwl tybed a yw'r Gweinidog bellach mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys rasio milgwn yn rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol fel y'i nodir yn y cynllun lles anifeiliaid. Rwy'n dychmygu bod y Gweinidog, fel finnau, mewn cysylltiad agos â llawer o elusennau lles anifeiliaid ledled Cymru, ac mae hwn yn gwestiwn y maent yn ei ddwyn i fy sylw'n barhaus. Rwyf hefyd yn awyddus i sefydlu beth yw safbwynt y Llywodraeth ar y ddeiseb a gyflwynwyd gan Hope Rescue, er fy mod yn derbyn nad yw adroddiad y Pwyllgor Deisebau wedi'i ryddhau eto.