Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 29 Mehefin 2022.
Ydw, yn sicr, pan fydd Jane Dodds yn gofyn cwestiwn, rwy'n disgwyl un oddi wrthych chi, ac fel arall, ar y mater pwysig hwn. Rwy'n ddiolchgar i chi am ei godi, fel y mae llawer o filgwn, rwy'n siŵr. Roeddwn yn meddwl bod y digwyddiad a gawsoch gyda Hope Rescue yn y Senedd, Paws in the Bay, yn wych ac roedd yn wych siarad â phobl a oedd yn berchen ar filgwn wedi'u hachub, fel Jane Dodds. Mae'n sicr yn fy helpu gyda fy syniadau, a swyddogion hefyd.
Mae'n sicr yn rhan o'n cynllun lles. Ni allaf roi diweddariad pellach i chi. Fel y gwyddoch, mae'n gynllun pum mlynedd a byddwn yn ei gyflwyno wrth inni fynd drwy dymor y Llywodraeth hon. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, o'r adroddiad y mae'r Pwyllgor Deisebau yn edrych arno. Byddwn yn synnu'n fawr os na chawn ddadl yn y Siambr o ganlyniad iddo, a byddwn yn croesawu hynny'n fawr.