Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Deallaf fod cyngor Caerffili wedi penderfynu peidio â pharhau â'r nifer presennol o archwiliadau lles anifeiliaid yn stadiwm Valley. O'r 10 archwiliad a drefnwyd, mae chwech wedi'u cwblhau, ond mae'n annhebygol y bydd y pedwar arall yn cael eu cynnal. Mae data gan Hope Rescue yn awgrymu bod llawer o gŵn yn cael eu hanafu ar y trac, a cheir pryderon parhaus am anafiadau, lles y cŵn ac nad yw milfeddygon bob amser yn bresennol yn ystod rasys, sydd, fel y byddech yn deall, rwy'n siŵr, yn rhoi'r cŵn mewn perygl enfawr. A gaf fi ofyn am sicrwydd gennych eich bod yn gweithio gyda chyngor Caerffili i sicrhau y bydd yr arolygiadau lles yn Valley, megis y rhai a gynhelir o dan y cynllun cyflawni partneriaeth, yn parhau i gael eu cynnal, ac yn fwy penodol, a wnewch chi weithio gyda'r cyngor a'r trac rasio i sicrhau bod milfeddygon yn bresennol ym mhob ras yn y stadiwm? Diolch yn fawr iawn.