Pobl Ifanc yn y Sector Amaethyddol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:56, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc a'r rhai sydd am ymuno â'r diwydiant amaethyddol, drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Mentro. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn helpu newydd-ddyfodiaid i ymuno â'r diwydiant a sefydlu busnesau cynaliadwy.