Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:38, 29 Mehefin 2022

Diolch yn fawr i chi am yr ateb hynny. Os caf fynd ymlaen i'r pwynt nesaf, un peth sy'n wych am y swydd yma, wrth gwrs, yw bod rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a dwi wedi dysgu yn ddiweddar iawn mai 'y clafr' ydy'r term am sheep scab. Felly, dwi am ofyn cwestiwn ar y clafr.

Fel dŷn ni'n gwybod, y clafr ydy un o'r clefydau mwyaf heintus mewn defaid yng Nghymru, ac fe'i nodwyd fel blaenoriaeth i glefydau gan grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Mae'n costio tua £8 miliwn y flwyddyn i ddiwydiant defaid y Deyrnas Gyfunol, sy'n cynnwys 14,000 o daliadau yma yng Nghymru, gyda 9 y cant o ffermwyr defaid yn profi o leiaf un achos o'r clafr y flwyddyn. Mae fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru Llywodraeth Cymru, y cynllun gweithredu ar gyfer 2022-24, yn nodi y bydd y grŵp fframwaith yn gweithio gyda'r Llywodraeth ac yn ymgysylltu â ffermwyr defaid a'u milfeddygon i ddatblygu dull sydd wedi cael ei gytuno arno ar y cyd i reoli'r clefyd yma. Mae e hefyd yn nodi y dylai'r dull hwn ganolbwyntio ar atal y clefyd rhag mynd i ddiadelloedd defaid drwy fesurau bioddiogelwch syml ond effeithiol y gall pob fferm ddefaid eu rhoi ar waith yn rhwydd. 

Yn y Senedd ddiwethaf, fe ddywedodd y Gweinidog ei hun fod dileu'r clafr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, a gwnaed addewid y bydd yna £5 miliwn ar gael i helpu dileu'r clafr ar ffermydd yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd a wnaed i ddileu'r clafr yng Nghymru, ac yn fwy penodol, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o effaith y rhaglen £5 miliwn ar y clafr yng Nghymru?