Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 29 Mehefin 2022.
Nid yw'r ffigurau gennyf yn fy llaw ar y gostyngiad a welsom yn y clafr. Gwn fod gostyngiad, a byddaf yn sicr yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â hynny. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i, os ydym am ddileu'r clafr, yw ein bod yn gweithio'n galed iawn mewn partneriaeth â'r sector amaethyddol. Cofiaf ymweld â fferm—roeddwn yn mynd i ddweud y llynedd, ond mae'n debyg nad yw hynny'n wir am ei fod cyn COVID, felly mae'n debyg ei fod tua thair blynedd yn ôl—fferm yn y canolbarth a oedd wedi llwyddo i ddileu'r clafr o'u fferm. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod yr arferion gorau'n cael eu rhannu rhwng ein ffermwyr, ond rwy'n derbyn ei bod yn ymdrech ar y cyd rhyngom.
Fe wneuthum roi arian. Roedd y cyllid y gallwn ei roi ychydig yn llai na £5 miliwn. Yn sicr, ni allais roi cymaint ag yr oeddwn wedi bwriadu ei wneud, ac roedd hynny'n bendant oherwydd y pandemig COVID a'r ffordd y bu'n rhaid inni ailddyrannu rhywfaint o gyllid. Ond unwaith eto, fe roddaf y manylion mewn llythyr at yr Aelod.