Bridio Cŵn yn Anghyfreithlon

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:49, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein prosiect gorfodi i awdurdodau lleol wedi cyfrannu at ymafael mewn nifer sylweddol o gŵn bach sy'n cael eu bridio'n anghyfreithlon. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r pwysau ychwanegol sy'n wynebu'r sector ailgartrefu anifeiliaid mewn tirwedd ôl-bandemig ochr yn ochr â'r argyfwng costau byw. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y trydydd sector i ystyried a chefnogi atebion lle bynnag y bo modd.