– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 29 Mehefin 2022.
Ac felly, dwi'n mynd i orfod mynd ymlaen i eitem 5, sef y datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus i wneud y datganiad yma. Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, a diolch am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw, Lywydd.
Efallai y bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod oedi sylweddol wedi bod cyn cymeradwyo cyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. I roi hynny yn ei gyd-destun, byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol fel arfer yn gwneud gwaith craffu manwl ar y cyfrifon hyn yn flynyddol yn ystod tymor yr hydref, ac roeddem wedi gobeithio parhau â hyn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystod y tymor hwn. I roi rhywfaint o gyd-destun, fel y dywedais, mae hyn wedi digwydd erioed.
Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wybod yn anffurfiol yr haf diwethaf gan Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru efallai y byddai cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn hwyrach na'r arfer yn cael eu cwblhau. Dywedwyd wrthym fod yr oedi'n deillio o'r gwaith ychwanegol a oedd yn cael ei wneud gan Archwilio Cymru ar grantiau cymorth i fusnes a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Roeddem yn deall bod hwn yn fater cymhleth yr oedd angen ei adolygu a’i drafod ymhellach rhwng yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ar y pryd, roeddem yn disgwyl i’r cyfrifon gael eu cwblhau erbyn mis Tachwedd 2021 fan bellaf, a oedd o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny. Ie, 'statudol'; mae hwn yn fater sydd wedi'i rwymo mewn cyfraith. Tua diwedd mis Tachwedd, cawsom wybod y byddai oedi pellach, pan oedd angen i Lywodraeth Cymru roi gwybod i Archwilio Cymru am ddigwyddiad ôl-fantolen posibl er mwyn sicrhau tryloywder llawn.
Ar y pryd, ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru atom hefyd, gan gadarnhau’r oedi pellach hwn a datgan ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth iddo erbyn dechrau mis Ionawr 2022. Derbyniwyd hyn gan y pwyllgor, a gwnaethom gytuno i aros am ganlyniad y gwaith pellach hwn, gan barchu'r broses archwilio angenrheidiol. Rydym yn gwerthfawrogi rôl a gwaith Archwilio Cymru yn sicrhau y cedwir at y safonau adrodd ariannol gorau ac na ddylai’r gwaith hwn gael ei danseilio, ei ruthro na’i lyffetheirio. Mae'r archwilydd cyffredinol wedi'i rwymo gan ddyletswyddau i sicrhau bod y prosesau archwilio priodol ar waith.
Mae'n rhaid imi bwysleisio na allwn drafod y rheswm penodol dros yr oedi. Hyd nes y caiff y cyfrifon eu cymeradwyo, ni allwn drafod hyn, gan nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, ac yn ôl yr hyn a ddeallwn, gallai fod yn destun achos cyfreithiol hyd yn oed. Hoffwn gofnodi hefyd, er bod y cyfrifon wedi’u gohirio, fod y pwyllgor wedi bod yn derbyn diweddariadau preifat rheolaidd ar y cynnydd a wnaed yn cwblhau’r cyfrifon. Mae’r diweddariadau hyn wedi’u darparu gan yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, gan alluogi’r pwyllgor i fonitro’r sefyllfa.
Fodd bynnag, ym mis Chwefror eleni, pan oedd y cyfrifon yn dal i fod heb eu cwblhau, ysgrifennais at y Llywydd, yn mynegi fy mhryder ynghylch yr oedi. Roedd y pwyllgor yn dod yn fwyfwy pryderus am ei allu i graffu ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion pwysig hyn. Mae'r oedi hwn wedi arwain at fethu terfynau amser statudol ar gyfer adrodd ariannol. Ac o ystyried ein bod yn cyfeirio at gyfrifon Llywodraeth, mae'n bwysig fod y mater hwn a phryderon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cael eu cofnodi'n gyhoeddus a'u codi yn y Siambr hon i sicrhau bod y Senedd ehangach yn ymwybodol o'r mater. Hoffwn pe bai mwy o'r Aelodau'n deall hynny a phe byddent wedi dod i'r sesiwn fer hon er mwyn elwa ohoni.
Mae adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyflwyno ei chyfrifon i’r archwilydd cyffredinol i’w harchwilio erbyn 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ganlynol—h.y. mis Ebrill i fis Mawrth. Yna, mae’n ofynnol i’r archwilydd cyffredinol gyflwyno ei archwiliad ac ardystiad o’r cyfrifon hynny gerbron y Senedd o fewn pedwar mis i dderbyn set archwiliadwy o gyfrifon. Mae hyn yn statudol, ac wedi’i ymgorffori mewn deddfwriaeth, ac eto, dyma ni ym mis Mehefin, heb unrhyw arwydd clir o hyd ynglŷn â pha bryd y caiff y cyfrifon hyn eu cyflwyno.
Diben y terfynau amser hyn yw sicrhau y gall atebolrwydd cyhoeddus, craffu ac adrodd i Drysorlys Ei Mawrhydi ddigwydd o fewn cyfnod rhesymol o amser. Mae gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus swyddogaeth ddifrifol i'w chyflawni yn craffu ar y cyfrifon hyn gan eu bod yn adrodd ar y swm mwyaf o wariant cyhoeddus gan unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru. Ac mae amseriad ein gwaith craffu wedi'i gynllunio i sicrhau bod ein gwaith yn berthnasol ac yn gallu dylanwadu ar yr adroddiadau ariannol yn y flwyddyn ganlynol. Mae'r oedi cyn cymeradwyo'r cyfrifon hyn wedi tanseilio ein gallu i wneud hynny.
Serch hynny, er bod y terfyn amser statudol hwn bellach wedi’i fethu, nid oes unrhyw fesurau diogelu yn y broses sy’n atal hyn, ac mae hynny felly'n llesteirio'r gwaith craffu. Rydym yn pryderu ynghylch y diffyg camau unioni yn sgil methu terfynau amser, ac nid ydym am i hyn fod yn gynsail ar gyfer y dyfodol. Mewn gwirionedd, nid yw’r prosesau sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn gymaradwy â darpariaethau a nodir mewn deddfau eraill ar gyfer cyfrifon eraill yn y sector cyhoeddus.
Er enghraifft, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn nodi bod yn rhaid i gorff llais y dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyflwyno ei gyfrifon i Lywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru erbyn 31 Awst fan bellaf. Fodd bynnag, os na all yr archwilydd cyffredinol osod y cyfrifon hyn gerbron y Senedd am nad yw’n rhesymol yn ymarferol i wneud hynny, y gwahaniaeth allweddol yw bod rhaid gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw, ac mae’n rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys y rhesymau pam.
Mae’r ddeddf hon, fel Deddf Llywodraeth Cymru, yn cydnabod na ellir cydymffurfio â’r amserlen o bedwar mis bob amser, ond os bydd sefyllfa o’r fath yn codi, fod yn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi gwybod i’r Senedd am y sefyllfa yn gyhoeddus ac yn ffurfiol. Bydd y pwyllgor yn edrych yn agosach ar y prosesau hyn maes o law, i weld a ellir gwneud newidiadau er mwyn cysoni adroddiadau ariannol Llywodraeth Cymru â’r disgwyliadau a osodir ar gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Hoffwn gofnodi hefyd fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus o ddifrif ynghylch y materion hyn, ac na fyddwn yn rhuthro nac yn ildio i bwysau i leihau ein gwaith craffu ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyhoeddi.
Rhagwelwn y bydd y rhain yn gyfres fwy cymhleth o gyfrifon, gyda nifer o faterion pwysig, y bydd angen amser arnom i graffu’n fanwl arnynt yn gyhoeddus. Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y cyfrifon hyn yn cynnwys gwariant cyhoeddus sylweddol yn sgil y pandemig, sy’n fater o ddiddordeb i’r cyhoedd. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud y gwaith hwn, yn cyflawni ein rôl yn y cylch atebolrwydd ariannol, ac yn ennyn hyder y cyhoedd ein bod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar ei gwariant. Gobeithiwn y gallwn edrych ymlaen at allu gwneud y gwaith hwn yn nhymor yr hydref yn unol â hynny. Diolch yn fawr.
Diolch, Mark Isherwood, am wneud y datganiad hwn yn y Senedd heddiw. Credaf ei bod yn bwysig fod materion o’r fath yn cael eu trafod yn gyhoeddus gerbron y Senedd. Mae’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi craffu ar gyfrifon nifer o wahanol sefydliadau cyhoeddus yn flynyddol ers blynyddoedd lawer. Mae'r gwaith yn bwysig iawn, er nad yw fel arfer yn hawlio sylw'r penawdau. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at welliannau o flwyddyn i flwyddyn yng nghyflwyniad a hygyrchedd cyfrifon ac adroddiadau blynyddol y cyrff cyhoeddus sydd wedi ymddangos gerbron y pwyllgor. Bu problemau yn y gorffennol gyda chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, nad wyf am fanylu arnynt yma ond sydd ar gael i'r cyhoedd, ac mae’r rhain hefyd wedi’u hadrodd i’r Senedd.
Mae’r pwyllgor yn craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r pwyllgor wedi canfod bod y gwaith hwn wedi bod yn bwysig er mwyn annog adroddiadau ariannol tryloyw, ar ôl nodi materion a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. I'ch atgoffa: rydym yn trafod cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cyfrifon wedi’u cymeradwyo a’u gosod o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny, yn gynnar fel arfer. Mae’r terfyn amser statudol ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol wedi’i fethu, ac fel y dywedodd Mark Isherwood, mae adran 131 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyflwyno eu cyfrifon i’r archwilydd cyffredinol i’w harchwilio erbyn 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol ganlynol. Dylai’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fod wedi cymeradwyo’r adroddiad, naill ai ar ddiwedd tymor yr hydref neu ym mis Ionawr.
I'ch atgoffa: mae'r cyfrifon hyn yn cael eu cynhyrchu gan weision sifil y Llywodraeth heb unrhyw ymwneud gwleidyddol. Rwy'n siŵr fod pawb yn falch nad oes unrhyw ymyrraeth wleidyddol wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn. Mater gweinyddol yw hwn yn gyfan gwbl.
Tri chwestiwn i chi, Mark Isherwood. Pryd fydd y pwyllgor yn cynnal ei waith craffu ar gyfrifon 2021? A oes angen rhagor o wybodaeth eto ar yr archwilydd cyffredinol gan weision sifil Llywodraeth Cymru? A sut y bydd yr oedi hwn yn effeithio ar yr archwiliad o gyfrifon 2021-22?
Diolch, Mike Hedges, aelod gwerthfawr o'r pwyllgor, sydd wrth gwrs wedi bod yn rhan o'r ymgais i graffu ar y mater pwysig hwn hyd yma. Fel y nodais, ac fel y gwyddoch o'ch amser ar y pwyllgor, rydym yn gobeithio gallu craffu ar hyn yn yr hydref, ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifon wedi’u cwblhau erbyn hynny, wedi'u gosod yn gywir, gyda'r holl gwestiynau a oedd heb eu hateb yn cael eu hateb yn briodol i'r archwilydd cyffredinol, a gallwn fynd ati o'r diwedd i gyflawni ein rôl yn hyn o beth. Fel y nodwyd, mae’r pryder, wrth gwrs, yn ymwneud nid yn unig â’r oedi, lle byddwn flwyddyn ar ei hôl hi eisoes erbyn mis Tachwedd eleni, ond anallu gwersi a ddysgwyd o’n gwaith craffu ar y cyfrifon hyn i ddylanwadu ar y set nesaf o gyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru, sy’n prysur agosáu, ac ni fyddant mewn sefyllfa i elwa ar y gwaith a wnaethom.
Edrychaf ymlaen at eistedd wrth y bwrdd gyda chi—yn yr hydref gobeithio—a chael ein dannedd i mewn i hyn, gan ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ôl yr angen, yn dibynnu ar gasgliad y cyfrifon hyn, ond hefyd i geisio dylanwadu yn ôl-weithredol mewn unrhyw ffordd a allwn ar y cyfrifon yn y flwyddyn ganlynol lle mae'r rhain yn berthnasol i'r un materion neu faterion cysylltiedig.
Diolch ichi am roi'r cyfle imi siarad am hyn. Nid wyf ond wedi bod yn Aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ers blwyddyn, ac mae'n amlwg i mi fod llawer o safonau dwbl yn bodoli yma, gwaetha'r modd. Mae'n ymddangos fy mod yn ei dweud hi fel y mae heddiw ac mae'n ymddangos mai dyma'r thema, felly waeth i mi barhau. Mae cyhoeddi'r cyfrifon blynyddol wedi'i ohirio oherwydd taliad mawr gan Lywodraeth Cymru; mae mor syml â hynny. Mynegais bryderon yn flaenorol a dywedais yn union yr un geiriau mewn datganiad busnes yma yn y Siambr hon ar 18 Ionawr 2022 am yr oedi, sydd, yn fy marn i, wedi llesteirio gwaith y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus yn craffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif.
Fel gwlad, bob blwyddyn, mae'n rhaid i unigolion a busnesau di-rif ledled y DU gyflwyno eu ffurflenni'n gyfreithiol i CThEM a Thŷ'r Cwmnïau, neu wynebu dirwy am yr oedi. Nid oes neb yn hoffi cael dirwy, gan fy nghynnwys i a llawer o fy etholwyr yn y de-ddwyrain, a ledled Cymru rwy'n siŵr, ac yn gwbl onest, rwyf wedi fy syfrdanu gan yr oedi yma yn Llywodraeth Cymru, a chan ddiffyg embaras Llywodraeth Cymru am hyn. Hoffwn dalu teyrnged ddiffuant i fy nghyd-Aelod dysgedig, Mike Hedges, sydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, wedi holi'n ofer am y diweddariadau i'r cyfrifon. Rhaid imi hefyd ganmol yr archwilydd cyffredinol a'i dîm am ei amynedd gyda'r mater hwn. Mewn byd lle nad yw ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddion yn ffafriol iawn, hoffwn ofyn i Gadeirydd y pwyllgor: Mark, a ydych yn rhannu fy mhryder na fydd oedi parhaus diangen ond yn gwaethygu canfyddiad y cyhoedd o wleidyddion? Mae Llywodraeth ddatganoledig Cymru yn fy siomi'n fawr, gan fy mod yn disgwyl i sefydliad gwleidyddol ddangos llawer mwy o barch at derfynau amser drwy lynu wrthynt.
Fy ail gwestiwn i chi, Mark, fydd: a ydych yn cytuno, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, fod Llywodraeth Cymru yn siomi ei Haelodau'n systematig, a'r cyhoedd hefyd bellach, oherwydd y diffyg tryloywder, proffesiynoldeb ac uniondeb yn ystod yr oedi hwn, ac nad yw'n ymddangos y bydd unrhyw oleuni ar ben draw'r twnnel hir hwn? Diolch yn fawr iawn.
Cytunaf yn llwyr â'r pwynt cyntaf. Efallai na ddylwn wneud sylw ar yr ail bwynt o gofio fy mod yn siarad fel Cadeirydd pwyllgor. Byddwn yn craffu ar y cyfrifon hyn yn y dyfodol. Ond rwy'n deall eich neges gyffredinol a sail eich pryder, oherwydd fel y clywsom, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cyfrifon wedi'u llofnodi a'u gosod o fewn yr amserlen statudol ar gyfer gwneud hynny, a'r tro hwn, mae'r amserlen statudol honno wedi'i thorri. Mae hwnnw'n fater difrifol ac mae'n ffodus ac yn hanfodol fod gennym bwyllgorau fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cadw llygad ar hyn, a swyddfa fel Archwilio Cymru, a rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gweithredu'n ddiduedd ond yn hanfodol ac yn ddygn mewn materion o'r fath i sicrhau bod eu rôl yn cael ei chyflawni'n unol â'u cylch gwaith statudol. Felly, ydw, rwy'n credu y gallwch gymryd hynny fel arwydd fy mod yn cytuno â'r pwynt cyntaf, ond fy mod efallai'n osgoi ymateb i'r ail yn ddiplomyddol. Diolch.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am y datganiad.