Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 29 Mehefin 2022.
A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chadeiryddiaeth Russell George, am gyflwyno'r ddadl a'r adroddiad heddiw, 'Aros yn Iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'. Fel rhywun nad yw'n aelod o'r pwyllgor, roedd yr adroddiad hwn yn eithriadol o bwysig i mi, gan fod yr amseroedd aros presennol ledled Cymru yn effeithio ar bawb, ac yn anffodus yn effeithio fwyaf ar fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae'n debyg. Wrth gyfrannu at ddadl adroddiad y pwyllgor heddiw, hoffwn dynnu sylw at dri maes penodol y mae'r pwyllgor wedi ymchwilio iddynt sy'n allweddol yn fy marn i.
Yn gyntaf, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ceir yr ystadegau mewn perthynas â'r amseroedd aros a'r data y dylid sicrhau ei fod ar gael. Ac fel yr amlinellwyd eisoes, mae tua un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros—yn sicr nid yw'n ddigon da, fel y mae'r Gweinidog yn derbyn, rwy'n siŵr. A thu ôl i'r niferoedd hyn, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i ddweud, mae pobl go iawn yn dioddef o ddydd i ddydd. Ac yn sicr, wrth edrych ar fy rhanbarth i, Gogledd Cymru, yn gynharach eleni ym mis Ionawr 2022, sydd, wrth gwrs, yn adeg brysur i fwrdd iechyd, ond serch hynny, roedd tua 148,000 o lwybrau cleifion, pobl yn aros i ddechrau triniaeth—mae 148,000 o bobl mewn poblogaeth o tua 700,000 yn nifer go syfrdanol. Wrth gwrs, mae'r niferoedd hyn yn cael eu hailadrodd mewn byrddau iechyd eraill, ond mae gennyf ddiddordeb plwyfol fel Aelod rhanbarthol o Ogledd Cymru, ac rwyf eisiau gweld y nifer hwn yn gostwng cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, nid yw'n iawn fod pobl yn talu eu trethi a'u hyswiriant gwladol am y gwasanaethau iechyd hyn, ac eto, maent yn gorfod aros cyhyd i gael eu gweld, ac yn ystod y cyfnod hwnnw o aros i gael eu gweld, maent yn cael amser anodd wrth gwrs, ac yn anffodus, maent yn dioddef. Felly, mae'r maes cyntaf yn ymwneud â'r data ac adrodd ar y data a sicrhau bod yr ystadegau hynny ar gael yn rhwydd fel y gellir eu dadansoddi'n gyflym ac yn hawdd.
Mae'r ail faes, wrth edrych ar effaith amseroedd aros, ar hyn y mae'r adroddiad yn nodi ei fod yn fater hirsefydlog, yn ymwneud â recriwtio a chadw staff. Fel y gwyddom, mae cadw staff presennol yn broblem enfawr i wasanaethau iechyd ar hyn o bryd, sy'n golygu bod y sector yn parhau i'w chael hi'n anodd cynnal y lefelau staffio presennol, heb sôn am eu cynyddu, ac mae'n sicr yn broblem yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn y gogledd. Wrth gwrs, os ydym eisiau denu mwy o nyrsys a meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill i ddod i weithio yn y GIG, yn sicr mae angen inni weld rhywfaint o weithredu i wneud y gwasanaeth yn fwy deniadol ac amlygu'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Ac rwy'n sicr eisiau gweld ein byrddau iechyd yn perfformio'n dda fel y gallwn ddenu mwy o bobl i'r gwasanaeth iechyd a sicrhau ein bod yn llenwi'r swyddi pwysig hynny a'n bod yn gallu eu cadw yn y swyddi hynny hefyd.
Yn olaf, y trydydd maes, sydd eisoes wedi'i amlinellu yn yr adroddiad heddiw a'i grybwyll gan y Cadeirydd ychydig yn gynharach, yw'r angen am arweiniad gwirioneddol glir a chynllun clir i ymdrin yn effeithiol â'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yng Nghymru. Oherwydd, fel y gwyddom, yn sicr, cafodd y broblem ei gwaethygu gan bandemig COVID-19, ond roedd yn sicr yno cyn COVID. Ac yn anffodus, pryd bynnag y gwelwn unrhyw ystadegau rhestrau aros, pobl gogledd Cymru sy'n parhau i ddioddef fwyaf. Felly, mae arnom angen arweiniad clir ar frys i gymryd cyfrifoldeb am gynllun gweithredu i unioni hyn a sicrhau nad yw'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn cael eu hanghofio. Ac yn y cynllun hwn, mae angen mesurau effeithiol i foderneiddio'r gwasanaeth iechyd—unwaith eto, fel y crybwyllwyd eisoes gan Aelodau blaenorol—gan ganolbwyntio o'r newydd ar arloesedd a digidol, a symud ymlaen gyda'r syniadau arloesol hyn, a fydd yn gwneud gwaith ein gweithwyr rheng flaen gymaint yn haws.
Felly, i gloi, hoffwn ddiolch eto i'r pwyllgor am eu hymdrechion ac am y gwaith hwn. Hefyd, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi derbyn 26 o argymhellion y pwyllgor yn llawn a'r llall mewn egwyddor, wrth gwrs. Oherwydd nid yw'r sefyllfa bresennol yn ddigon da ac ni all barhau; ni allwn fforddio gadael iddo barhau, er mwyn ein pobl yma yng Nghymru. Felly, gallai gweithredu adroddiad y pwyllgor arwain at welliannau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn o ran rhestrau aros sy'n peri pryder mawr yng Nghymru, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Diolch yn fawr iawn.