6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol — 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:44, 29 Mehefin 2022

Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'm cyd-aelodau o'r pwyllgor am gael cydweithio efo chi ar yr adroddiad yma? Diolch i'r tîm clercio a thîm cefnogi'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, ac wrth gwrs i bawb wnaeth rannu efo ni fel pwyllgor eu profiadau nhw a'u harbenigedd nhw wrth inni drio deall yn well effaith aros yn hir am driniaeth. 

Rydyn ni mewn perygl ar hyn o bryd o dderbyn, bron iawn, mai aros yn hir mae pobl yn mynd i'w wneud am driniaeth. Mae'n endemig. Mae rhywun yn gallu mynd i feddwl ei fod o'n anochel, ond dydy o ddim. Ac mae'r adroddiad yma, dwi'n credu, yn ei gwneud hi'n glir mewn nifer o argymhellion fod rhaid peidio â derbyn y sefyllfa fel y mae hi, a pheidio â derbyn mai mynd yn ôl i ddyddiau cyn pandemig dŷn ni eisiau ei wneud, fel dywedodd y Cadeirydd.

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion y gallech eu rhoi dan ryw bennawd eang o leihau rhestrau aros. Dŷn ni'n rhoi sylw i gomisiynu capasiti uwch i gryfhau'r gweithlu, i annog diagnosis cynnar, i daclo anghydraddoldebau iechyd—y pethau yma sy'n mynd i wneud gwahaniaeth yn yr hirdymor—ond mi oedd hi'n amserol, dwi'n credu, i wneud darn o waith ar ddelio efo'r amseroedd hir sydd gennym ni a sut maen nhw'n effeithio ar bobl. Mae'r ystadegau'n frawychus, onid ydyn, efo rhywbeth fel 0.75 miliwn o boblogaeth Cymru ar ryw fath o restr aros? Ac mae'n bwysig iawn cofio bob amser mai pobl go iawn ydy'r rhain, nid ystadegau, a bod llawer ohonyn nhw'n aros mewn poen, yn bryderus, yn gweld eu hiechyd yn dirywio'n waeth, yn methu byw eu bywydau fel y dylen nhw, yn methu gweithio o bosib, ac felly mae angen meddwl am eu lles nhw bob amser wrth aros. Dŷn ni'n gwneud argymhellion ar sut i gefnogi cleifion wrth aros, ar fuddsoddi mewn helpu cleifion i reoli poen—rhywbeth lle mae yna danfuddsoddi mawr wedi bod. Mae angen rhoi gwybod i bobl am gefnogaeth amgen y gallen nhw ei chael yn eu cymunedau wrth aros, cefnogaeth drwy fferyllwyr ac ati, ac mae yna argymhellion penodol ynglŷn â'r meysydd hynny. 

Mi ddaeth hi'n amlwg iawn i ni fod yna wendidau sylfaenol iawn yn y cyfathrebu sy'n digwydd efo cleifion. Faint o weithiau ydyn ni fel Aelodau o'r Senedd yma wedi gweithredu ar ran etholwr sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn am nad ydy o'n gwybod lle mae o arni yn y siwrnai drwy'r gwasanaeth iechyd, neu wedi gwrando ar rywun sydd yn egluro ei boen neu ei boen meddwl? Mae argymhelliad 19 yn ymwneud â defnyddio technoleg fel rhan o'r gwaith cyfathrebu yna. Ac yn gwisgo het arall fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Gymru ddigidol, mi wnaf i'ch atgoffa chi o eiriau'r Dirprwy Weinidog Lee Waters yn y Senedd yn cymharu'r math o wasanaethau dŷn ni wedi'i gael wrth archebu rhywbeth ar-lein, yn gwybod yn union le mae'ch parsel chi arni hi, efo'r hyn y dylen ni allu ei ddisgwyl yn yr unfed ganrif ar hugain yn ein gwasanaeth iechyd a gofal, siawns. Mi ydych chi'n gwybod bod eich siopa Nadolig chi yn mynd i gyrraedd am 3.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, ond os ydych chi eisiau gwybod pryd dŷch chi'n mynd i gael rhywbeth llawer pwysicach, fel clun newydd, gallech, mi allech chi guro ar ddrws eich cynrychiolydd yn y Senedd, ond y drefn fyddai mynd at eich meddyg teulu, fyddai wedyn yn ysgrifennu at y bwrdd iechyd a fyddai'n ysgrifennu yn ôl—cynhyrchu gwaith. Mae'r system yn aneffeithiol ac mae'n gadael cleifion yn y tywyllwch. Mae'n ychwanegu at y straen emosiynol y mae cleifion oddi tano yn aml iawn wrth aros am driniaeth.

Dirprwy Lywydd, mae taclo rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd yn gorfod bod yn un o flaenoriaethau mawr Llywodraeth Cymru, os nad y flaenoriaeth, ac mae eu dal nhw i gyfrif am y gwaith maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yn gorfod bod yn flaenoriaeth i ni fel Senedd. Dyna bwysigrwydd yr adroddiad yma. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn 26 o'n 27 argymhelliad ni, a derbyn y llall yn rhannol, ond mae'n rhaid inni beidio â bodloni ar hynny, wrth gwrs. Ac yn aml iawn, wrth dderbyn argymhellion, beth mae Llywodraeth yn ei ddweud ydy, 'Dŷn ni'n gwneud hyn yn barod.' Ond mae hwn yn fynydd i'w ddringo, ac mae'n neges ni fel pwyllgor yn glir: dydy'r Llywodraeth ddim yn gwneud digon yn barod, ac mae pobl Cymru yn dioddef yn sgil hynny.