Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 29 Mehefin 2022.
Clywsom am bobl sydd mewn poen, anesmwythder neu sy'n profi pryder. A chlywsom am bobl y mae eu hanghenion yn mynd yn fwy cymhleth, sy'n rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd ac ar ofalwyr di-dâl, y gallai fod gofyn iddynt ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu mwy cymhleth. Clywsom hefyd am bobl sy'n llai abl i weithio, astudio neu ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofalu arferol, ac y mae eu costau byw wedi cynyddu, wrth gwrs, o ganlyniad i'w cyflwr. Clywsom hefyd am y pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd, a chan y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, wrth iddynt fynd i'r afael â'r pandemig a'r ôl-groniad o ran amseroedd aros. Ac wrth gwrs, rydym yn diolch i'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr, am yr holl waith y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud. Heb weithlu cynaliadwy, ymgysylltiedig ac wedi'i gefnogi—rhaid inni gofio bod y gweithlu'n llawer ehangach na meddygon a nyrsys yn unig—ni fyddwn yn gallu sicrhau'r trawsnewidiad y mae angen inni ei weld yn ein gwasanaethau iechyd a gofal.
Roedd ein hadroddiad yn canolbwyntio ar effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros, a'r hyn y gellir ei wneud i helpu pobl i aros yn iach. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 26 o'n hargymhellion yn llawn, a'r un argymhelliad sy'n weddill mewn egwyddor. Y cyfrwng i fynd i'r afael â llawer o'n hargymhellion yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros yng Nghymru. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi casglu barn ysgrifenedig ar y cynllun, ac yn gynharach heddiw, mewn gwirionedd, cyfarfuom ni fel pwyllgor, fel Aelodau, â rhanddeiliaid yma yn y Senedd. Mae rhanddeiliaid yn croesawu'r cynllun yn gyffredinol; maent eisiau ei weld yn llwyddo, fel rwyf innau, wrth gwrs, ond mae ganddynt bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn ddigon manwl, a yw'n darparu gweledigaeth ddigon clir ar gyfer trawsnewid ein gwasanaethau iechyd, ac a oes digon o gapasiti i'w gyflawni. Ac mae honno'n neges allweddol, mewn gwirionedd, gan y grŵp o randdeiliaid y siaradais â hwy y bore yma. Y neges allweddol oedd bod y cynllun yn wych, mae'r cynllun yn uchelgeisiol, ond roeddent yn pryderu nad oes digon o gapasiti i gyflawni'r cynllun.
Fe wyddom i gyd y bydd yn cymryd amser i leihau amseroedd aros. Mae Archwilio Cymru, yn ei adroddiad diweddar ar ofal wedi'i gynllunio, yn amcangyfrif y gallai gymryd saith mlynedd neu fwy i restrau aros ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Mae'n hanfodol, felly, fod pobl yn cael eu cefnogi i aros yn iach. Mae hynny'n rhan o argymhelliad 1. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith bod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i wella'r wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl wrth iddynt aros am ddiagnosis a gofal.
Fodd bynnag, er ein bod yn croesawu'r datblygiadau megis yr ymrwymiad i wella cyfathrebu â chleifion, a gafodd ei gyfleu'n arbennig y bore yma gan randdeiliaid hefyd, maent wedi dweud wrthym fod angen mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer cyflawni, sut y caiff pŵer a phrofiad y trydydd sector eu harneisio a sut y caiff risgiau allgáu digidol eu rheoli. Bydd angen i rywfaint o wybodaeth a chyfathrebiadau gael eu personoli a'u haddasu i anghenion unigolion er mwyn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth gywir ar gyfer eu hamgylchiadau. Clywais am brofiad brawychus y bore yma ynghylch sut y mae llythyr templed weithiau'n gorfod mynd drwy 20 cam cyn y cytunir arno yn y pen draw. Fodd bynnag, dywedodd rhanddeiliaid wrthym y bore yma y bydd angen amser, adnoddau ac arbenigedd er mwyn i gyfathrebu fod yn effeithiol ac yn hygyrch, a byddwn yn croesawu eglurhad pellach gan y Gweinidog ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael, a sut y caiff cydbwysedd ei sicrhau o ran cydgysylltu cenedlaethol er mwyn sicrhau bod negeseuon yn gyson ac i osgoi dyblygu.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth allweddol i ni, a gofynnwyd i'r Gweinidog egluro sut y byddai cymorth yn cael ei dargedu at bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Rydym yn croesawu'r awgrym bod grŵp cenedlaethol yn cael ei sefydlu i ddatblygu atebion i gefnogi poblogaethau lleol a nodi sut y bydd bylchau anghydraddoldeb mewn atal a gofal wedi'i gynllunio yn cael eu cau. Edrychwn ymlaen at glywed mwy am waith y grŵp pwysig hwn maes o law. Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Meddygon, a Chymorth Canser Macmillan, wedi dweud wrthym eu bod yn pryderu nad oes gan gynllun Llywodraeth Cymru ddigon o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd ac yn mynd i'r afael â hwy. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud rhywbeth heddiw am waith y grŵp cenedlaethol a sut y bydd hwnnw'n llywio gweithrediad cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio.
Mae ein hadroddiad yn galw am gyhoeddi data amseroedd aros yn rheolaidd, wedi'i ddadgyfuno yn ôl arbenigedd ac ysbyty. Roedd argaeledd, tryloywder a manylion data yn fater allweddol a godwyd gan randdeiliaid y bore yma. Fel ninnau, maent eisiau gweld mwy o fanylion am y mathau o driniaethau y mae pobl yn aros amdanynt, ac maent eisiau i'r data hwnnw gael ei ddadelfennu ymhellach. Derbyniodd y Gweinidog ein hargymhelliad, ond dywedodd ei bod yn dal i ystyried ei dull gweithredu, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn ddefnyddiol ac yn ystyrlon. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym hefyd fod angen gwell data am y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ein rhybuddio y bore yma hefyd fod proffil oedran staff mewn rhai arbenigeddau ar ymyl y dibyn o ran capasiti'r gweithlu. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym y prynhawn yma am yr amserlenni ar gyfer gwella argaeledd data mewn perthynas ag amseroedd aros a'r gweithlu.
Bydd lleihau amseroedd aros yn galw am arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym eu bod yn cefnogi uchelgais y cynllun yn gyffredinol, ond bod angen rhagor o fanylion am y trefniadau arwain a sut y caiff newid ei gyflawni, gan gynnwys sut y bydd partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yn cael eu cynnwys. Mae'r materion allweddol a godwyd yn cynnwys rôl byrddau partneriaethau gweithredol a rhanbarthol newydd y GIG, a'r angen am fwy o eglurder ynghylch sut y caiff atebolrwydd cyffredinol am gyflawni ei rannu rhwng gwahanol raglenni cynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, grwpiau prosiect a rhwydweithiau. Clywsom bryderon hefyd ynglŷn ag a yw'r cynllun yn gwneud digon i gydnabod effaith heriau ym maes gofal cymdeithasol.
Yn ei hymateb i argymhelliad 26, esboniodd y Gweinidog y byddai'n dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn eu cynlluniau tymor canolig integredig, a bod cyfarwyddwr cenedlaethol newydd ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gwelliant ac adferiad wedi'i benodi i weithio gyda'r GIG i sicrhau bod cynlluniau gwella lleol yn bodloni ymrwymiadau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu barn y Gweinidog y prynhawn yma ar awgrymiadau rhanddeiliaid y dylid gosod adroddiad cynnydd blynyddol gerbron y Senedd, a bod angen gwneud mwy i annog byrddau iechyd i gydweithio a chyflymu'r broses o ddatblygu modelau rhanbarthol.
Yn olaf, yn ein hadroddiad, buom yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y mae'r ôl-groniad o ran amseroedd aros yn effeithio ar wahanol gyflyrau a gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol. Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym nad yw'n glir iddynt hwy a yw pob arbenigedd yn dod o dan gynllun Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Cymru Versus Arthritis yn nodi nad yw'n glir fod orthopedeg wedi'i chynnwys, ac mae Mind Cymru wedi galw am eglurhad ar frys ynglŷn ag a yw'r targedau adfer yn berthnasol i wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig gan fod oedi i'r set ddata graidd ar gyfer iechyd meddwl yn golygu nad oes amseroedd aros manwl ar gael ar gyfer llawer o wasanaethau iechyd meddwl. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro a yw orthopedeg a gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas y targedau adfer yng nghynllun Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau y prynhawn yma.