Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae’n bwysig nodi hefyd, Ddirprwy Lywydd, nad anecdotaidd yn unig yw’r pryderon hyn ynghylch effaith colli darpariaeth A&E. Mae tystiolaeth yn bodoli sy’n cefnogi pryder ehangach, heb sôn am bwysigrwydd yr awr aur, y golden hour, fel mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn ymwybodol ohono. Dangosodd un astudiaeth gan Brifysgol Sheffield, a edrychodd ar 10,500 o achosion brys, fod cynnydd o 10 km mewn pellter llinell syth o uned damweiniau ac achosion brys yn gysylltiedig â chynnydd absoliwt o tua 1 y cant mewn marwolaethau, yn enwedig i'r rhai â chyflyrau anadlu. Gyda rhai cynigion yn gweld ardaloedd fel Aberdaugleddau a Doc Penfro yn wynebu cynnydd o dros 30 km, mae’n ddealladwy pam fod cymaint o bobl yn pryderu am ddyfodol y gwasanaethau iechyd lleol.
Rwy’n cydnabod yr heriau y mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn eu hwynebu yn rhy aml o lawer, yn enwedig wrth ystyried y diffyg buddsoddiad cyfalaf cronig sydd wedi bod yn y bwrdd iechyd yng ngorllewin Cymru o gymharu â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth i’r trafodaethau am ysbyty newydd posib barhau, mae’n hanfodol bod y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw manwl o’r pryderon gwirioneddol hyn gan drigolion sir Benfro, a mynd ati i gymryd camau pendant i sicrhau nad yw mynediad a hawl trigolion yr ardal at wasanaethau brys yn cael ei danseilio gan unrhyw newidiadau i wasanaethau iechyd yn yr ardal.