Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 29 Mehefin 2022.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylai fod gan bobl yr hawl i wasanaethau hanfodol, sy’n amlwg yn cynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi ym mhob rhan o Gymru. Mae’r potensial ar gyfer diwygio gofal iechyd yn yr ardal drwy adeiladu ysbyty newydd, o bosibl, yn creu mwy o ansicrwydd yn sir Benfro. Er fy mod yn cydnabod y cyfleoedd y byddai agor ysbyty newydd sbon yn eu cynnig i orllewin Cymru o ran recriwtio staff arbenigol, darparu gwell cyfleusterau clinigol a chyfleoedd ymchwil, nid oes unrhyw amheuaeth, er gwaethaf ymdrechion y bwrdd iechyd, fod pryderon gwirioneddol a dybryd o hyd y gallai hyn olygu bod trigolion bregus sy'n byw ar ymylon pellaf gorllewin sir Benfro mewn perygl pe bai angen gwasanaethau iechyd brys.
Mae cryfder y teimladau'n amlwg, fel y clywsom eisoes gan Jack Sargeant. Gallai colli darpariaeth damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg i rai o’r safleoedd ysbyty arfaethedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf olygu bod pellteroedd i drigolion sy’n byw yn Nhyddewi yn mwy na dyblu, o 16 i 36 milltir. Byddai hyd y teithiau hefyd yn dyblu o ardaloedd fel Aberdaugleddau, Abergwaun ac Angle. Gwn fod llawer o drigolion yn bryderus iawn am effaith y cynnydd hwn mewn amseroedd teithio i adrannau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig wrth ystyried y mewnlifiad sylweddol yn y boblogaeth yn sir Benfro, fel y clywsom eisoes, pan fo'r tymor twristiaeth ar ei anterth, yn ogystal â'r crynodiad o weithgarwch diwydiannol a geir ar ddyfrffordd Aberdaugleddau.