7. Dadl ar ddeiseb P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 29 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:27, 29 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a siarad o blaid y ddeiseb i sicrhau bod ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei adran damweiniau ac achosion brys. Nid y ddeiseb hon yw'r gyntaf i alw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg, a sicrhau nad ydynt yn cael eu symud ymhellach i ffwrdd. Ac eto, er i Weinidogion Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol ddweud bod Llwynhelyg yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, y realiti yw ein bod wedi gweld mwy a mwy o wasanaethau'n cael eu hadleoli i fannau eraill dros y blynyddoedd, ac mae'r cynnig yn awr i symud yr adran damweiniau ac achosion brys yn mynd yn rhy bell.

Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, mae sir Benfro yn gartref i burfa olew, dwy derfynell nwy naturiol hylifedig, porthladdoedd fferi, meysydd tanio a nifer fawr o weithwyr mewn diwydiannau risg uwch, fel ynni a ffermio, fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau newydd ei ddweud. Mae sir Benfro hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr i'r sir bob blwyddyn, rhywbeth, gyda llaw, nad yw'r dogfennau ymgynghori i adeiladu ysbyty newydd yn ei ystyried wrth sôn am symud gwasanaethau damweiniau ac achosion brys tua'r dwyrain.

Mae'n rhaid bod y miloedd ar filoedd sy'n ymweld â sir Benfro hefyd yn ffactor wrth benderfynu israddio cyfleusterau damweiniau ac achosion brys. Byddai cael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg heb os yn atal pobl rhag ymweld â'r ardal os nad yw'r cyfleusterau brys ar gael yn yr ysbyty lleol. Yn gwbl amlwg, mae arnom angen y gwasanaethau hanfodol hyn yn ysbyty Llwynhelyg er mwyn cefnogi pobl leol, a ddylai barhau i allu cael mynediad at wasanaethau brys o'r radd flaenaf, ac er mwyn cefnogi'r degau o filoedd o ymwelwyr sy'n ymweld â ni'n rheolaidd.

Bydd Aelodau'n gwybod bod canlyniadau'n gwella'n sylweddol os yw pobl yn cael y gofal cywir a'r driniaeth gywir o fewn yr awr aur gyntaf o fynd yn sâl neu gael eu hanafu. Ac mewn llythyr diweddar a gyhoeddwyd gan y bwrdd iechyd lleol, mae'n cydnabod y bydd amseroedd teithio i gael gofal brys ar safle ysbyty newydd yn hirach i rai o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli. Felly, os caiff adran damweiniau ac achosion brys ysbyty Llwynhelyg ei throsglwyddo ymhellach i ffwrdd, mae'n annhebygol iawn y bydd rhai o fy etholwyr yn cael y gofal a'r driniaeth gywir o fewn yr awr aur gyntaf o fynd yn sâl neu gael eu hanafu.

Yn sir Benfro, rydym yn derbyn eisoes fod rhaid inni deithio ymhellach i ffwrdd i gael triniaeth arbenigol, ond mae ein gorfodi i deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer triniaeth sy'n achub bywydau a gwasanaethau brys yn gwbl annerbyniol, a gallai beryglu bywydau. Yn ôl cyfaddefiad y bwrdd iechyd ei hun, mae gwir angen uwchraddio seilwaith trafnidiaeth sir Benfro, ac mae hynny'n golygu y bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Tyddewi neu Abergwaun, er enghraifft, yn cymryd llawer mwy nag awr i gyrraedd cyfleusterau damweiniau ac achosion brys os nad ydynt yn aros yn ysbyty Llwynhelyg. 

O bryd i'w gilydd, gwelwn yr A40 ar gau oherwydd damweiniau, a byddai mynd ymhellach tua'r dwyrain o fewn yr awr aur o leoedd fel Abergwaun, Tyddewi a Dale, o dan yr amgylchiadau hynny, yn amhosibl. Fel y dywedais yn y Siambr hon droeon yn ddiweddar, mae'r gwasanaeth ambiwlans yn sir Benfro eisoes o dan gymaint o bwysau, maent yn ei chael yn anodd ymdopi, ac felly, os caiff gwasanaethau damweiniau ac achosion brys eu symud ymhellach i ffwrdd, caiff hynny effaith enfawr ar gyfraddau ymateb a'r gallu i gael pobl i'r adran damweiniau ac achosion brys cyn gynted â phosibl.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach wedi nodi pum safle posibl fel lleoliadau i adeiladu'r ysbyty newydd hwn ac mae'r safleoedd hynny bellach yn destun ymgynghoriad. Serch hynny, ni allaf fod yn gliriach—nid oes yr un o'r safleoedd hyn yn dderbyniol. A dywedaf wrthych pam: yn y ddogfen ymgynghori, fe'i gwneir yn gwbl glir nad oedd ysbyty Llwynhelyg wedi'i nodi fel safle oherwydd, yn gwbl gywir, ni fyddai'n briodol i drigolion sir Gaerfyrddin deithio'r pellter hwn ar gyfer y math hwn o ofal. Felly, nid yw'n briodol i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn sir Benfro deithio ymhellach tua'r dwyrain ar gyfer y math hwn o ofal ychwaith. Felly, erfyniaf ar y Gweinidog a Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn y mater hwn a sicrhau bod gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn aros yn ysbyty Llwynhelyg.

Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli am ei weld yw bod Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd lleol yn datblygu ac yn moderneiddio seilwaith ysbyty Llwynhelyg ac yn sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o'r radd flaenaf yn sir Benfro. Rhaid rhoi diwedd ar y modd y caiff gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg eu herydu'n barhaus. Rhaid dychwelyd yr uned gofal pediatrig dydd, rhaid diogelu'r adran damweiniau ac achosion brys, a rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i ganiatáu cynigion sy'n mynd â gwasanaethau hanfodol oddi wrth y bobl sydd eu hangen.

Ddirprwy Lywydd, diogelu gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yw blaenoriaeth bennaf y bobl rwy'n eu cynrychioli, ac felly rwy'n annog y Gweinidog i ymyrryd yn awr a datblygu dull newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd yn sir Benfro—dull sy'n seiliedig ar wrando ar bobl sir Benfro a rhoi sicrwydd iddynt y bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu ac y buddsoddir ynddynt yn y dyfodol.