Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 29 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn y Senedd am ganiatáu i ni drafod y ddeiseb y prynhawn yma.
Cafodd y ddeiseb, P-06-1277, 'Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol' ei chreu gan Jacqueline Doig a chafodd 10,678 o lofnodion. Mae'r ddeiseb ei hun yn datgan:
'Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed. Mae'n gwastraffu amser hollbwysig pan nad yw amser ar ein hochr ni.
'Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau yn fwriadol. Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf peryglus: ffermio.
'Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r “Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith. Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir, yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei angen.'
Mae'r ddeiseb yn mynd ymlaen, Ddirprwy Lywydd, i egluro mwy o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd y mae'r deisebydd ac eraill wedi'u profi.
Ond un o'r datblygiadau arloesol y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'i gyflwyno eleni yn ein proses ddeisebu yn y Senedd yw mapiau gwres, a gwn fod hynny efallai'n swnio'n ddiflas i rai, ond mewn gwirionedd, mae'n bwynt pwysig iawn yr wyf am ei wneud y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae'r mapiau'n dangos yn glir iawn ble mae deisebau wedi'u llofnodi ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae gan y ddeiseb benodol hon un o'r mapiau mwyaf clir a welsom erioed fel pwyllgor, gyda dros 85 y cant o'r llofnodion yn dod o ddwy etholaeth sir Benfro. Yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n ysgogi angerdd cryf yn lleol—cryf iawn—ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau y prynhawn yma yn archwilio'r materion hynny'n fanylach.
Ond dylwn ddweud nad yw'r angerdd lleol hwnnw dros ein gwasanaethau iechyd yn gyffredinol wedi'i gyfyngu i sir Benfro: mae'n bodoli ym mhobman, ym mhob cwr o Gymru. Ac mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn angerddol iawn am yr ardaloedd a gynrychiolwn, ac rydym yr un mor angerddol am ein gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i ni. Rydym i gyd yn cynrychioli ardaloedd lle mae ein hetholwyr yn angerddol am eu gwasanaethau a'r gwasanaethau a gânt, a'r ffordd y cânt eu darparu.
Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl heddiw. Cefais y pleser o groesawu'r ddadl heddiw i'r Siambr, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am bryderon pobl, yn enwedig yn sir Benfro, lle cafodd y ddeiseb hon ei llofnodi gan gymaint o bobl, ac ardal bwrdd iechyd Hywel Dda yn ehangach. Ond edrychaf ymlaen hefyd at glywed gan Aelodau ar draws y Siambr am faterion a phryderon cysylltiedig mewn rhannau eraill o Gymru. Ac wrth gwrs, rydym i gyd yn edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog.
Ddirprwy Lywydd, er bod y ddeiseb hon yn ymwneud ag ysbyty yn Hwlffordd a'r gwasanaethau a ddarperir yno, mae'r mater yn un sy'n taro tant ledled y wlad. Felly, rwy'n falch o allu agor y ddadl heddiw. Rwy'n falch o roi cyfle i'r 10,678 o bobl a lofnododd y ddeiseb, yn enwedig, godi eu llais yn eu Senedd, cartref democratiaeth Cymru, ac rwy'n ddiolchgar y bydd eu pryderon yn cael eu clywed gan Lywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed gweddill y ddadl. Diolch yn fawr.