Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 29 Mehefin 2022.
Iawn. Diolch. Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth orau sy'n bosibl i bawb sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru, ond mae angen i'r geiriau arwain at weithredu, a gobeithio y bydd yr adolygiad diweddaraf yn cynnwys mwy o ymrwymiad i ofal seicolegol, gan barhau hefyd â'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud ar gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater hynod bwysig hwn.