Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Llywydd, gadewch imi sicrhau'r Aelod nad oes unrhyw ddeintydd yng Nghymru yn gweithio am ddim. Mae deintyddion, ar gyfartaledd, yn ennill rhywle rhwng £70,000 a £100,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar natur eu contract. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Sarah Murphy am yr ymrwymiad y mae deintyddion yng Nghymru wedi'i ddangos yn ystod cyfnod y coronafeirws, cânt eu talu, a'u talu'n deg, am y gwaith a wnânt.
Mae'r pwynt a gododd yr Aelod am effaith y coronafeirws, Llywydd, yn un pwysig. Ar 1 Mehefin, llwyddodd y Prif Swyddog Deintyddol i ysgrifennu at bractisau deintyddol ledled Cymru, gan ddad-ddwysáu rhai o'r mesurau atal a rheoli heintiau y mae deintyddion wedi gorfod eu gweithredu oherwydd y coronafeirws. Yn anffodus, oherwydd y cynnydd cyflym presennol yn nifer y bobl sy'n mynd yn sâl oherwydd y feirws, a'r ffaith bod yr amrywiolion diweddaraf o omicron hyd yn oed yn fwy trosglwyddadwy, mae hynny'n sefyllfa y bydd yn rhaid inni ei hadolygu'n ofalus iawn. Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu, Llywydd. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn mynd yn sâl gyda'r feirws. Mae gennym 1,500 o bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd nad ydyn nhw yn y gwaith heddiw oherwydd eu bod yn sâl gyda COVID-19, ac mae gennym 600 o bobl eraill y tu hwnt i hynny sy'n hunanynysu oherwydd eu bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael y feirws. Mae hynny dros 2 y cant o holl weithlu'r GIG nad ydyn nhw'n gallu gwneud yr holl bethau eraill y gofynnwn iddyn nhw eu gwneud dim ond oherwydd effaith barhaus y coronafeirws yma yng Nghymru. Ac mae gweithdrefnau cynhyrchu aerosol, sef yr hyn y mae deintyddiaeth yn dibynnu arno gymaint, ymhlith y gweithdrefnau mwyaf heriol o ran trosglwyddo'r feirws. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr holl gamau y mae practisau deintyddol wedi'u cymryd, y cymorth ychwanegol y maen nhw wedi'i gael drwy Lywodraeth Cymru i wella awyru yn y practisau hynny, ond nid oes amheuaeth o gwbl, ac ni ddylai unrhyw Aelod yn y Siambr hon fod ag amheuaeth o gwbl, fod yr amgylchedd gweithredu ym maes deintyddiaeth, ac ar draws GIG Cymru, yn parhau i fod yn heriol iawn oherwydd yr effaith y mae coronafeirws yn ei chael.