Mawrth, 5 Gorffennaf 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy gyswllt...
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau deintyddol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58287
2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn Nyffryn Clwyd? OQ58331
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru? OQ58305
4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol ar feic, ar sgwter neu drwy gerdded? OQ58328
5. Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio eu cyflawni o'r cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Ngogledd Cymru? OQ58318
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i blant ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ58327
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen caffael seilwaith gwastraff Llywodraeth Cymru? OQ58330
9. Gyda phwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru wrth wneud asesiadau diogelu o ran menywod yn y broses o ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig? OQ58312
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol. A dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hwnnw. Mark Drakeford.
Eitem 4 sydd nesaf, datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad—Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gynnydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg—cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Jeremy Miles.
Symudwn ymlaen at eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar iechyd menywod. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y ddatganiad. Eluned Morgan.
Dyma ni'n cyrraedd Cyfnod 3 y Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
Fe fyddwn ni yn gyntaf yn trafod y grŵp cyntaf o welliannau, sy'n ymwneud â chyfyngiadau defnyddio'r pwer yn adran 1. Gwelliant 1 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid...
Grŵp 2 sydd nesaf. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â'r dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a'r unig welliant. Rwy'n galw ar Peter Fox i gynnig...
Grŵp 3 o welliannau sydd nesaf, ac mae'r rhain yn ymwneud ag adolygu'r Ddeddf. Gwelliant 8 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Peter Fox i gynnig gwelliant 8. Peter Fox.
Grŵp 4 yw'r grŵp olaf o welliannau, ac mae rhain yn ymwneud â'r pŵer o dan adran 1 yn dod i ben. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog i...
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt metro'r gogledd?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia