Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Prif Weinidog, bu cynnydd sylweddol, sydd i'w groesawu'n fawr yn ddiweddar yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion, a fydd yn helpu llawer o bobl ifanc yn Nyffryn Clwyd a thu hwnt. Gwyddom mai gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion sy'n gyfrifol am atal salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar yn y ffordd fwyaf effeithiol. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i hwyluso'r gwaith o hyfforddi a recriwtio cynifer o gwnselwyr ysgol newydd â phosibl?