Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i Sioned Williams am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cafodd pecyn cymorth gwerth £48 miliwn arall ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Cymorth yw hwn i gefnogi'r broses o adfer gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru, ac ardaloedd eraill, yn dilyn y pandemig. Bydd mesurau i ddiwygio'r diwydiant a dad-wneud y niwed o ddadreoleiddio yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.