Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i estyn croeso cynnes i gydweithwyr yn yr oriel o Bacistan, sydd wedi dod yma o un o'r cynulliadau rhanbarthol ac yn gwylio ein trafodion heddiw?
Prif Weinidog, pam y mae Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei hymrwymiad, a wnaed tua saith mlynedd yn ôl, i ddileu'r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc yn y sector gofal yma yng Nghymru?