Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Llywydd, rydym yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol a pharhaus i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £4.9 miliwn yn ychwanegol mewn cyllid iechyd meddwl rheolaidd, gan ddechrau eleni, i helpu i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl.