Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ Arfaethedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:29, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch menywod o ddifrif. Drwy asesiadau effaith, ymgysylltu â'r panel arbenigol LHDTC+, a thros 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn parhau i werthuso effeithiau posibl ein cynllun gweithredu LHDTC+ ar hawliau a diogelwch menywod.