Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ Arfaethedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:31, 5 Gorffennaf 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, nid ydych chi'n cynnal ymarfer ymgynghori gan gael 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad heb glywed gan bob math o unigolion a grwpiau sydd ag amrywiaeth eang iawn o brofiadau ac amrywiaeth eang iawn o safbwyntiau ar y pwnc hwn. Nid wyf i'n credu y gallaf i wneud yn well nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog pan wnaeth hi ei datganiad. Mae'n amlwg mai dyma farn Llywodraeth Cymru: nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu, fel y mae'n awgrymu'n gyson ar lawr y Senedd, nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau i eraill. [Cymeradwyo.]