Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'i hadolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru. Roeddwn i'n arswydo o weld manylion achos Logan Mwangi—daeth bywyd ifanc i ben mor fuan wth law y rhai a oedd i fod i garu a gofalu amdano. Er fy mod i'n falch o weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni yn erbyn y drygioni a gipiodd bywyd bachgen ifanc cyn iddo ddechrau, mae angen i ni sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod y gwasanaethau cymdeithasol yma yng Nghymru yn addas i amddiffyn ein plant sy'n wynebu risg. A hoffwn i anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at dad Logan a gweddill ei deulu a'i ffrindiau, ac athrawon yn Ysgol Gynradd Tondu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr effeithiwyd arnyn nhw i gyd gan y drasiedi erchyll hon.
Cafodd Logan ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant fis cyn iddo farw. Ni chafodd ei ymweliad arferol, ychydig cyn y digwyddiad hwn, ei gynnal oherwydd diagnosis positif COVID, er bod cyfarpar diogelu personol ar gael i'r staff eu defnyddio. Ac fel y dywedais i pan gafodd lladdwyr Logan eu dyfarnu'n euog, yr oeddwn i'n synnu bod y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd yn credu bod angen adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru ar ôl i'r achos trasig hwn amlygu rhai diffygion difrifol yn y system. Gwnaethom ni alw am adolygiad yn ôl ym mis Mai, ac, o gofio bod tair gwlad arall y DU yn cynnal un ar hyn o bryd, a'r ffaith mai Cymru sydd â'r cyfraddau gwaethaf ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ni allaf i ddeall pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr esiampl. Ni ddylid caniatáu i'r achosion hyn ddigwydd, ac mae plant sy'n agored i niwed yn haeddu cael eu hamddiffyn yn llawn gan y wladwriaeth, ac mae'r hunanfodlonrwydd diwylliannol ymddangosiadol yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael dylanwad negyddol ar dynged y plentyn hwn. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i orchymyn yr adolygiad annibynnol hwn yn ddi-oed. Diolch.