Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch. Wel, mae mannau parcio i bobl anabl yn cael eu creu gan yr awdurdod priffyrdd, sef yr awdurdod lleol, yn amlwg, drwy orchymyn rheoleiddio traffig. Ac mae angen i awdurdodau lleol ystyried eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn ogystal ag ar gyfer priffyrdd. Nid oes cyllid penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau parcio i bobl anabl; mae angen i awdurdodau lleol ystyried hyn fel rhan o'u gwaith cynllunio cyllideb cyffredinol.