Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Llywydd, rwy'n troi nawr at Filiau sydd i'w cyflwyno yn y flwyddyn i ddod. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i greu Cymru decach, wyrddach a chryfach. Cafodd y portffolio newid hinsawdd ei greu i'w gwneud yn haws i brif feysydd y Llywodraeth ddatganoledig gael yr effaith fwyaf yn y maes hwn. Mae dyletswydd foesol i ni wneud cynnydd ar yr agenda hwn, a byddwn yn cyflwyno nifer o Filiau i wneud cyfres o newidiadau pwysig dros y 12 mis nesaf.