Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch, Llywydd. Heddiw, mae hi'n bleser i mi wneud datganiad ynglŷn â'n rhaglen ddeddfwriaethol ni. Mae hon yn rhan hanfodol o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru'r dyfodol. Rydym ni bellach yn nhrydydd tymor y Senedd hon ers i bobl Cymru bleidleisio i roi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd lunio Deddfau Cynulliad. Ers 2011, rydym ni wedi bod yn cynyddu swm y ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth hon yn ei chyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Rhaglen yw hon sy'n amlygu ein defnydd eang ni o'r pwerau hynny, a hynny ar raddfa eang.