3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Gorffennaf 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:55, 5 Gorffennaf 2022

Llywydd, mae datganiad blynyddol y rhaglen ddeddfwriaethol yn cael ei ddefnyddio fel arfer i gyhoeddi Biliau y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae'r Senedd yn craffu ar ddeddfwriaeth mewn continwwm, ac nid yw Biliau'n cwympo ar ddiwedd sesiwn. Felly, fe hoffwn i edrych ychydig ymhellach ymlaen at ddechrau trydedd flwyddyn y rhaglen a sôn am nifer o Filiau pwysig eraill.