Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i Jenny Rathbone. Yn fy natganiad i, Llywydd, roeddwn i'n ceisio rhoi mwy o bwyslais eleni nag mewn datganiadau cynharach ar arwyddocâd is-ddeddfwriaeth a'r llwyth gwaith y mae hynny'n ei greu yma yn y Senedd; mae'n enfawr. Rydym ni wedi defnyddio llawer o'n hegni ni i basio deddfwriaeth sylfaenol. Pan wyf i'n meddwl am y Bil llywodraeth leol a ddygodd fy nghyd-Aelod i Julie James drwy'r Senedd yn y tymor diwethaf; yr ymgais lwyddiannus gyntaf i ddiwygio agweddau ar lywodraeth leol yng Nghymru. Ond mae'r Bil ei hun yn darparu fframwaith, ac wedyn fe geir y gwaith aruthrol ynglŷn â'r manylion a gyflwynir mewn rheoliadau, ac fe dynnodd Jenny Rathbone sylw at y rheoliadau y bydd y Senedd yn eu cymryd yr wythnos nesaf o ran parthau 20 mya.
Nid wyf i am ddweud llawer mwy am y Bil aer glân, Dirprwy Lywydd, oherwydd rydym ni eisoes wedi cael cynllun aer glân, a Phapur Gwyn aer glân, ac mae'r rhan fwyaf o'r mesurau y bydd y Bil yn eu hadlewyrchu i'w gweld yn y gwaith gwnaethom ni ei roi gerbron y cyhoedd eisoes.
Serch hynny, o ran y Bil bysiau, mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle—mae'r Bil bysiau yn rhan o'n hymdrechion ni i gynhyrchu aer glân, lawn cymaint â sicrhau bod gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr a dibynadwy. Rydym ni'n dymuno sicrhau y gall pobl adael eu ceir gartref, ac rydym ni'n awyddus i weld fflyd o fysiau, fel dywedais i wrth ateb cwestiwn cynharach heddiw, sy'n rhedeg yn y ffordd lanaf bosibl, ac fe fydd y Bil bysiau yn ein helpu ni gyda hynny i gyd.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am dynnu sylw at y Bil cydsyniad seilwaith, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n Fil pwysig iawn yn y rhaglen hon? Mae'r pwerau gennym ni, fel gŵyr yr Aelodau, i gydsynio i brosiectau cynhyrchu ynni, prosiectau cynhyrchu trydan, hyd at 350 MW, ac eithrio gwynt ar y tir, lle mae gennym ni gymhwysedd deddfwriaethol llawn. Y tensiwn sy'n bodoli yn hyn o beth yw hwnnw rhwng sicrhau y gallwn ni symud ymlaen gyda thechnolegau newydd sy'n rhoi gobaith i ni, er enghraifft, gynaeafu ynni o'r amgylchedd morol, a diogelu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw hefyd ar yr un pryd. Fe fydd y Bil cydsynio yn caniatáu i ni ddatblygu cyfundrefn gydsynio yng Nghymru sy'n gyflymach ac yn fwy ystwyth na'r un bresennol, a fydd yn caniatáu i brosiectau ynni adnewyddadwy symud ymlaen er mwyn ein helpu ni gyda'r argyfwng hinsawdd, ond a fydd, ar yr un pryd, yn cydnabod ein rhwymedigaethau ni i beidio â gwneud pethau a allai beryglu'r amgylchedd bregus iawn hwnnw. A honno fydd y ddadl, y cydbwysedd rhwng y ddwy agwedd hynny, nad oes amheuaeth gennyf i y byddwn ni'n ei chael wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd.